YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Bethesda’r Dyfodol

Bethesda’r Dyfodol


Casglu sbwriel

Fel rhan o’u gwaith thema aeth Bl3 a 4 ar daith o amgylch yr ardal leol er mwyn adnabod y nodweddion positif a’r nodweddion negyddol o fewn eu cynefin. Ar ôl tynnu lluniau a chreu rhestr roedd pawb wrth eu bodd wrth sylwi fod yr holl nodweddion positif yn gorbwyso’r rhai negyddol. Penderfynodd y plant eu bod yn awyddus i helpu gyda’r broblem sbwriel gan dreulio pnawn yn tacluso Bethesda. Gobeithio y bydd pawb yn y gymuned yn cefnogi eu hymdrechion i gadw Bethesda yn lân a thaclus ar gyfer y dyfodol.