YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Ffilm Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru

Ffilm Cyflwyno Cwricwlwm i Gymru


Mae hi’n gyfnod cyffrous ym myd addysg yng Nghymru gyda dyfodiad CIG mewn grym yn swyddogol ym mis Medi 2022. Felly penderfynwyd ei bod hi’n bwysig fod pawb yn ymwybodol o’r newidiadau( yn blant, rhieni, Llywodraethwyr a’r gymuned), ac yn deall cefndir a nod y cwricwlwm newydd hwn. Felly aeth plant blwyddyn 2 a 6 ati i greu ffilm fer yn crynhoi’r cefndir, pwrpas y pedwar diben, y chwe maes dysgu, y camau cynnydd a llawer mwy mewn ffordd hwyliog a bywiog. Mae’r ffilm i’w weld ar ein sianel YOUTUBE , felly ewch ati i’w gwylio. Mwynhewch!!