Hafan > Newyddion > Gwersi Cerdd gyda Mr T
Gwersi Cerdd gyda Mr T
Rydym wrth ein boddau croesawu Mr Geth Thomas (naci dim ein pennaeth) neu Mr T fel y’i gelwid gan y plant yn wythnosol atom i gynnal sesiynau cerddoriaeth gyda phob dosbarth. Mae’r plant wrth eu boddau yn canu, rapio, chwarae offerynnau, drymiau, samba a phob o bethau eraill o dan ei arweiniad. Edrychwn ymlaen am flwyddyn gyffrous, hwyliog a swnllyd yn ei gwmni.