Hafan > Newyddion > Llais Ogwen Mehefin 2023
Llais Ogwen Mehefin 2023
Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Penybryn 2023
Pa ffordd well o ddathlu diwedd hanner tymor na thrwy gynnal Eisteddfod Gadeiriol, y cyntaf erioed yn hanes yr ysgol? Mae’n anodd egluro’r brwdfrydedd, a’r cynnwrf a gafwyd wrth i bawb fynd ati i baratoi at y diwrnod mawr! Gydol yr wythnos bu’r plant yn paratoi ar gyfer cystadlu mewn ystod eang o gystadlaethau megis llawysgrifen, gwaith celf, coginio, llefaru, canu, dawnsio, talent a llawer mwy. Roedd yr ysgol yn byrlymu o sŵn canu,llefaru,offerynnau a cherddoriaeth diri- pawb am y gorau i gasglu pwyntiau i’w tai Ffryslas,Caseg a Llafar. O’r diwedd fe gyrhaeddodd y diwrnod hir disgwyliedig, a phawb yn barod i groesawu ein beirniad amryddawn, Mrs Linda Brown. Bu cystadlu brwd gydol y bore, a medalau lu yn cael eu cyflwyno i’r buddugwyr. Roedd neuadd yr ysgol dan ei sang a chynnwrf a sŵn chymeradwyo yn atseinio'r holl ffordd i Rachub, dybiwn i. Pinacl y bore oedd clywed ein beirniaid yn traddodi’r feirniadaeth i gystadleuaeth y cadeirio- sef cyfansoddi stori fer ar y teitl ‘Peiriant Amser” Cyflwynwyd pedair cadair hardd dros ben i’r llenorion ifanc, ac fe’u cyfarchwyd gan ddawns flodau gan staff yr ysgol. Golygfa a hanner! Do, cawsom ddiwrnod i’r brenin, a chafodd y plant brofiadau fydd ar gof a chadw am byth. Hir oes i’r Eisteddfod ym Mhenybryn, a diolch i’r holl rieni, staff a phlant am eich gwaith hynod o galed. A diolch enfawr i Linda Brown am fod yn feirniad gwerth chweil!
Taith Antur Blwyddyn 3 a 4
Fel rhan o’n thema ‘Beth sydd i'w ddarganfod wrth fynd am dro?” fe heidiodd llond bws o blant blwyddyn 3 a 4 i dre’r Cofis i fwynhau diwrnod hwyliog a phrysur. Roedd yn haul yn gwenu’n braf wrth i'r plant forio canu ‘Fflat Huw Puw’ ar y Queen of the Sea, a mwynhau ym Mharc Dros yr Aber. Pinacl y diwrnod heb os oedd hufen ia blasus yng Nghaffi Palas gan Gwenlli ac Enid. Diwrnod i'w gofio yn bendant.
Achubwyr Mynydd Dyffryn Ogwen
Cafodd blwyddyn 5 a 6 ymweliad gan Achubwyr Mynydd Dyffryn Ogwen fel rhan o’u gwaith Dyniaethau. Diddorol oedd clywed am eu gwaith anhygoel, a pha mor ddewr a gwerthfawr yw eu cyfraniad i'n hardal leol. Diolch yn fawr, ac edrychwn ymlaen at gyd-weithio gyda chi yn y dyfodol agos.
Criced
Bu disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth criced ysgolion cynradd Eryri. Cawsant ddiwrnod gwych, a bu cystadlu brwd rhwng yr ysgolion ar ddiwrnod tanbaid. Diolch yn fawr i'r holl drefnwyr am eu gwaith caled.
Diolch
Diolch yn fawr i'r Parchedig Sara Roberts am ddod draw atom yn rheolaidd i gynnal gwasanaethau i'r plant. Mae’ plant yn mwynhau'r straeon amrywiol a’r negeseuon rydych yn ei gyflwyno mewn ffordd ddifyr. Diolch!
Trip i lan y môr
Fel rhan o’r thema ‘O dan y môr’ cafodd y plant Abercaseg fodd i fyw yn cael ymweld â thraeth Llanfairfechan yn ddiweddar. Braf oedd gweld y mwynhad ar wyneb y plant wrth iddynt ddysgu am y creaduriaid sydd yn byw ar y traeth ac yn wir, llwyddwyd i adeiladu cestyll gwerth chweil! Gwelwyd bysgodyn jeli anferth a chranc, roedd y plant (a’r staff!) wrth eu boddau!
Diwrnod Môr Ladron
Er mwyn dilyn diddordebau'r plant, penderfynom gynnal diwrnod ar y thêm Môr Ladron. Dyma ddiwrnod gwerth chweil yn llawn o brofiadau gwerthfawr sydd yn mynd i fod ar gof a chadw am byth. Roedd rhaid i’r plant weithio fel tîm er mwyn datrys problem o groesi’r afon ac adeiladu cychod gydag adnoddau ailgylchu ymysg nifer o weithgareddau hwyliog eraill.
Prynhawn agored Meithrin
Braf oedd gweld y plant fydd yn dechrau yn y Meithrin yn treulio’r prynhawn yn eu dosbarth newydd. Cawsom brynhawn pleserus yn dod i adnabod y plant a’u rhieni. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ysgol Abercaseg ym mis Medi.
Diwrnod Trosglwyddo
Bu cynnwrf enfawr yn Ysgol Abercaseg yn ddiweddar wrth i’r plant drosglwyddo i’w dosbarthiadau newydd am y bore! Roeddent wrth eu boddau yn treulio amser yn eu dosbarthiadau newydd a gyda’u hathrawon newydd. Gwych oedd gweld plant Blwyddyn 2 Abercaseg wedi ymgartrefu yn Ysgol Pen y bryn yn ystod y diwrnod trosglwyddo hefyd, wrth iddynt dreulio’r diwrnod yno. Mae ymgyfarwyddo gydag ysgol newydd yn gam enfawr, ond mi lwyddodd y plant i setlo’n syth ac wedi mwynhau’r profiad yn fawr.
Mabolgampau
Uchafbwynt y flwyddyn yw cystadlu yn y Mabolgampau! Cawsom ddiwrnod i’w gofio yn llawn hwyl a bwrlwm. Diolch i Gyfeillion yr ysgol ac i Mrs Sioned Jones am sicrhau fod stondinau ar gael ar y diwrnod i gasglu arian.
Gwasanaethau Ffarwelio Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6
Mae’r amser i ffarwelio gyda Blwyddyn 2, Abercaseg a Blwyddyn 6, Pen-y-bryn wedi cyrraedd unwaith eto. Cawsom wasanaethau arbennig gan y disgyblion. Diolchwn am eich gwaith caled yn ystod y flwyddyn a dymunwn y gorau i chi yn Ysgol Pen y Bryn ac yn Ysgol Dyffryn Ogwen.
Tripiau Diwedd y Flwyddyn
Heb os, dyma binacl y flwyddyn! Dyma gyfle perffaith i ddathlu llwyddiannau’r plant dros y flwyddyn. Cafodd plant o’r Derbyn i Flwyddyn 1 drip arbennig i Fferm y Foel. Roedd y plant wrth eu boddau yn cael gweld a bwydo’r anifeiliaid. Gwych oedd gweld Blwyddyn 2 yn rhannu eu trip gyda phant Pen-y-bryn yng Ngelli Gyffwrdd. Dyma ddiwrnod yn llawn cynnwrf a braf oedd gweld y mwynhad oedd ar wynebau’r plant.
Edrychwn ymlaen yn arw i groesawu’r plant yn ôl ym mis Medi, a dymunwn wyliau hapus iawn i’r staff a’r plant. Diolch yn arbennig i’r staff am eu gwaith diflino ar hyd y flwyddyn.