YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Newyddion Chwefror 2023

Newyddion Chwefror 2023


Ydi hi’n iawn i fod yn wahanol?


Ydi hi’n iawn i fod yn wahanol? Dyna yw thema Ysgol Penybryn yr hanner tymor yma. Mae pob dosbarth wedi bod yn gweithio yn galed iawn yn dysgu am beth sy’n ein gwneud yn wahanol a’r bobl sydd wedi brwydro am hawliau cyfartal i bawb megis Rosa Parks a Martin Luther King Jr. Cyflwynodd pob dosbarth wasanaethau arbennig oedd yn pwysleisio ar bwysigrwydd parchu gwahaniaethau i weddill yr ysgol. Roedd amrywiaeth o straeon a pherfformiadau o stori'r bobl fach wyrdd yn addysgu’r bobl fach binc am gydraddoldeb hiliol gan ddosbarth Tryfan, i rap gwreiddiol wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan ddosbarth Elidir. Da iawn chi, blant!

Ymweliad y Welsh Whisperer


Cafodd ddisgyblion blwyddyn 3 brofiad gwych yng nghwmni’r Welsh Whisperer yn cyfansoddi  a pherfformio cân newydd sbon am yr ysgol, cyfle ardderchog i’r plant ddangos eu creadigrwydd a thalentau. Roedd pnawn o adloniant i goroni’r dydd gyda gig gan y Welsh Whisperer a pherfformiad arbennig gan blant blwyddyn 3 i weddill yr ysgol.

Roedd plant Blwyddyn 2  Abercaseg hefyd wedi bod wrthi’n brysur iawn yng nghwmni’r cerddor.  Yn ystod y diwrnod cyntaf cafwyd gyfansoddi cân arbennig, unigryw ar gyfer yr ysgol gan roi perfformiad i weddill y plant.  Ar ei ail ymweliad, gydag un o'r dosbarthiadau wedi ei osod fel stiwdio recordio cafodd bawb gyfle i gymryd rhan a chyd-greu podlediad arbennig, unigryw Ysgol Abercaseg.  Profiad arbennig er mwyn datblygu hunan hyder a sgiliau llafar Y Gymraeg.

 

  • Plant yn recordi pod cast
  • Plant wedi dod at ei gilydd i dynnu llun

Apêl Daeargryn Twrci


Rydym ni oll yn Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg yn falch iawn o Yusef, disgybl Blwyddyn 4 oedd ar y newyddion yn ddiweddar yn son am brofiadiau ac effaith y daeargryn ar ei deulu yn Nhwrci. Roedd yn esbonio sut mae ei deulu wedi mynd ati i godi arian at yr apêl. Cysylltodd Uwch Ohebydd Newyddion S4C ar ysgol i ganmol Yusef am siarad yn wych gyda Chymraeg oedd yn llifo’n naturiol braf.

Dydd Miwsig Cymru


Roedd pawb wrth eu boddau ar ddydd miwsig Cymru.  Cafwyd dysgu am fwy o artistiaid a bandiau Cymraeg gan werthuso a dod o hyd i hoff ganeuon y dosbarthiadau, yn o gystal â chael disgo miwsig Cymraeg yn y prynhawn!

  • Mr T a disgyblion

Perfformiad gwerth chweil


Mae criw o blant blwyddyn 2 wedi ymgymryd mewn her newydd - 'Her 50 Pennill'. Mae'r plant yn mentro dysgu 50 pennill ar gof dros gyfnod tymor y Gwanwyn a thymor yr Haf.  Hyd yma mae'r plant wedi dysgu 10 pennill ac wedi bod yn perfformio'r penillion i weddill yr ysgol. Da iawn criw Ffrydlas.

 

Gwenwch!


Diolch i nyrsys Cynllun Gwen am ddod i Abercaseg. Cafodd farnais fflworid ei beintio ar ddannedd plant Abercaseg er mwyn helpu i atal pydredd dannedd. Mae Plant Ysgol Abercaseg wrthi ers tro yn brwsio eu dannedd dwywaith y dydd yn yr ysgol.

Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon


Gwisg genhinen yn dy gap a gwisg hi yn dy galon Ar Fawrth y 1af, daeth Cyngor Ysgol Dyffryn Ogwen i sgwrsio gyda disgyblion Pen-y-bryn plant am eu profiadau a’r gwaith anhygoel mae’r Ysgol yn ei wneud erm wyn datblygu’r Gymraeg. Cawsom hefyd gwmni pennaeth Blwyddyn 7 ac athrawes Gymraeg o’r ysgol a fu’n rhoi gwersi iaith i flynyddoedd 5 a 6. Cafodd disgyblion Penybryn ddathliad mawr yn y prynhawn gyda phrynhawn hwyl yn llawn gweithgareddau, cystadlaethau a gemau i ddathlu dydd Gŵyl Dewi a lansio ein prosiect ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’, tra bu’r cerddor, Mr T, yn diddanu plant Abercaseg – oll yn swn

  • Plentyn yn gwisgo het gyda'r ddraig goch ar