Hafan > Newyddion > Newyddion Chwefror 2024
Newyddion Chwefror 2024
Diwrnod Miwsig Cymru
Cawsom ddiwrnod i’r brenin yn dathlu Diwrnod Miwsig Cymru ym Mhenybryn ac Abercaseg ar Chwefror 19eg. Diwrnod o ddathlu fod ganddom artistiad talentog a stôr o ganeuon unigryw yn ein mamiaith. Bu blwyddyn chwech wrthi’n ddygn yn trefnu’r diwrnod yn Ysgol Penybryn. Cafodd pob plentyn waith cartref i wrando a gwerthuso 10 o hoff ganeuon dosbarth Elidir. Yna parti i bob dosabrth a oedd wedi ei drefnu gan flwyddyn chwech. Cyfle i chwarae bob math o gemau traddodiadol i gerddoriaeth Cymraeg a chwis adnabod y gân a’r artist. Diwrnod llawn hwyl ac yn werthfawrogol bod ganddom ystod o ddewis i’n diddanu.
Roedd pawb wrth eu boddau yn Ysgol Abercaseg hefyd, gyda digon o gyfleoedd i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg gan lu o artistiaid a bandiau Cymraeg a chafodd pawb y cyfle i werthuso'r caneuon a dod o hyd i hoff gan bob dosbarth!
Siarter Iaith-
Cyfnod 3 ar gychwyn – Cymru,Cymraeg,Cymuned
Do, mae cyfnod 3 C wedi cychwyn ym Mhenybryn. Cyfnod i ddathlu ein Cymreictod, ein hiaith a’n Cymuned. Rhoddodd y Cyngor Ysgol gyflwyniad arbennig yn y gwasaneth yn nodi beth oedd eu bwriad am y tymor nesaf, ac oes mae yna wledd o weithgareddau wedi eu trefnu I blant Penybryn. Edrychwn ymlaen i rannu’r bwrlwm a’r holl weithgaredau gyda chi yn y rhifyn nesaf o Llais Ogwen.
Siaradwr Cymraeg Yr Wythnos
Er mwyn hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ysgol rydym wedi croesawu ‘Dan y Ddraig’ i bob dosbarth yn Abercaseg. Bydd un plentyn o bob dosbarth yn cael eu dewis fel Siaradwr Cymraeg yr wythnos ac felly yn cael y cyfle i fynd a Dan y Ddraig adref dros y penwythnos gan dynnu lluniau neu ysgrifennu am eu hanturiaethau. Rydym yn edrych ymlaen at weld ac i glywed yr holl hanesion!
Ysgol Eco
Mae Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd bod yn wyrdd a gofalu am y gymuned gydol y flwyddyn, ond mae cyfnod cyffrous ar droed i ddisgyblion y ddwy ysgol gyda llu o weithgareddau wedi trefnu ar eu cyfer gan y Grŵp Eco. Edrychwn ymlaen at wersi beicio, Kurb Craft, gweithdy gan Dŵr Cymru, ymweld a RSPB, glanhau a chasglu ysbwriel o amgylch y gymuned, helpu’r banc bwyd lleol a llawer mwy. Cewch flas o’r digwyddiadau a lluniau i’ch diddori yn y rhifyn nesaf o Llais Ogwen.
Diwrnod Blasu Dyffryn Ogwen
Tro Blwyddyn 4 oedd ymweld a Ysgol Dyffryn Ogwen y tro hwn. Roedd pawb wedi mwynhau bore o wersi difyr a chinio hynod flasus cyn dychwelyd yn ôl gyda boll lawn a gwên ar wyneb pob un. Diolch o galon i bawb yn Nyffryn Ogwen am wneud y profiad yn un i’w gofio i’n disgyblion, ond yn bwysicach rhoi blas iddynt o’r holl gyfleoedd gwych sydd o’u blaenau pan yn trosglwyddo I’r uwchradd yn y dyfodol.
Christingle
Diolch yn fawr unwaith eto i’r Parchedig Sara Roberts am ymweld â phlant Blwyddyn 1 a 2, Ysgol Abercaseg er mwyn cwblhau gweithgareddau Christingle. Roedd y plant wedi mwynhau yn arw cael cyfle i ddysgu am y traddodiad a mynd ati i greu!
Ffarwelio
Rydym wedi ffarwelio a Miss Erin Davies a fu’n aelod gwerthfawr o staff yr ysgol. Diolch iddi am ei chefnogaeth a’i gwaith caled wrth gefnogi’r disgyblion. Pob dymuniad da iddi!