YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Newyddion Ebrill 2023

Newyddion Ebrill 2023


Llais Ogwen Ebrill 2023

Plannu Coed ym Mlaen y Nant


Diolch i Bartneriaeth Tirwedd y Carneddau am y cyfle amhrisiadwy i ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol, i gael fod yn rhan o gynllun cadwraeth lleol. Cafodd blwyddyn 6 gyfle i fynd ar daith gerdded o amgylch Cwm Idwal cyn mynd ati i blannu 250 o goed Brodorol Criafol ym Mlaen y Nant. Diolch i Rhys, Eleri a Sophie am eu arbenigedd ar y diwrnod.

  • Plant yn plannu coed

Beics Ogwen-Partneriaeth Ogwen


Diolch i griw beics Partneriaeth Ogwen am alw draw i’r ysgol i ddysgu sgiliau beics newydd i’r holl blant. Cawsant sesiynau diddorol tu hwnt yn dysgu ychydig am reidio beic, dysgu sut i fynd ati i drwshio a gofalu am eu beics a derbyn ychydig o gyngor sut i fod yn ddiogel arnynt. Diolch ‘Beics Ogwen’ !

  • Plant gyda beics

Gwasanaeth y Pasg


Cafodd yr ysgol gyfan wasaneth Pasg arbennig gan y Caplan Sera, cyn wyliau’r Pasg. Ar wahân i stori Iesu yn marw dros ein pechodau, daeth y Caplan a nifer o eitemau gyda hi i gyd-fynd a’r stori- roedd pawb wedi gwirioni gyda’i brigyn phalmwydd- roedd yn enfawr o hir! Edrychwn ymlaen i’w chroesawu’n nôl. Diolch!

Cymraeg yn y Gymuned


Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn ystod y tymor diwethaf- ac yn parhau y tymor hwn!- i ddatblygu’r Gymraeg yn y gymuned. Rydym wedi bod wrthi’n brysur yn garddio gyda Mike ( garddwr lleol sydd wedi dysgu Cymraeg ag sydd bellach yn siarad yn rhygl) wrth dacluso ein gardd a’n gwlâu planhigion. Rydym wedi plannu toman o hadau ac edrychwn ymlaen i’w gwled yn blaguro yn ystod y flwyddyn.  Braf oedd estyn gwahoddiad i’r artist lleol Elen Williams yma i greu murlun lliwgar. Aeth y Cyngor Ysgol ati i feddwl am syniadau i gynnwys ynddo; be gwell na murlun cyfan o Fethesda ynde?- mynyddoedd, strydoedd, y chwarel, siopau, hanes, enwau ardaloedd lleol a’r holl bethau sydd gan Bethesda i’w gynnig. Bydd yn werth ei weld fyny ar y wal! Edrychwn ymlaen am weddill y gweithgareddau ‘Cymraeg yn Gymuned’.

Mynd am Dro


Golygai Tymor Newydd, thema newydd- a be’ gwell ond manteisio ar y tywydd braf a ‘Mynd am Dro’ fel sbardyn! Cychwynom drwy droedio ein milltir sgwâr a chanfod hanesion a straeon lleol, canfod cartrefi  enwogion Pesda megis Caradog Pritchard a chael hanes ystyron enwau ambell i stryd. Mae hi mor bwysig fod ein plant yn ymwybodol o hanesion euraidd y fro ac i ymfalchio yn eu gwreiddiau. Edrychwn ymlaen i barhau â’r thema hwn.

Welsh Whisperer


Bu blwyddyn 3 yn brysur yn gwneud podlediad gyda’r Welsh Whisperer. Cawsant ddysgu sut mae recordio fel DJ drwy wisgo clust ffonau a pwyso llith o fotymau i greu synau gwahanol! Diolch Welsh Whisperer!

Boreuau Agored


Cafodd rhieni pob dosbarth wahoddiad yn eu tro i ddod mewn i weld gwaith eu plant- ond dyma foreuau ychydig gwahanol i’r arfer. Tra yma, roedd cyfle i’r rhieni gael paned a ‘sgedan tra’n sgwrsio gyda’u plant am y gwaith gan sicrhau bod y sgyrsiau yn digwydd yn Gymraeg. Yn ychwanegol, roedd cyfle iddynt fwynhau chwarae gemau gan siarad yn y Gymraeg a defnyddio geirfa cymraeg i gyd-fynd â’r gemau. Diolch ichi am ddod!

  • Plant yn cael sgwrs