YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Newyddion Hydref 2023

Newyddion Hydref 2023


Ysgol Penybryn

Pythefnos 3P- Pwerau Dysgu, Profiadau a Phedwar Diben

Does dim dwywaith amdani, bod ‘Pythefnos 3P’ wedi bod yn llwyddiant ysgubol eto eleni. Ond beth yw pwrpas ‘Pythefnos 3P’ meddech chi? Sut gychwynnodd yr holl beth?
Wel, heuwyd yr hedyn cyntaf y llynedd pan ofynnwyd i’r plant greu gweledigaeth newydd sbon i’r ysgol. Y peth pwysicaf i’r plant oedd eu bod yn cael ystod o brofiadau diddorol a heriol, a'u bod yn cael cyfleoedd di-ri i ddefnyddio'r pwerau dysgu, sef y pwerau hud sydd yn greiddiol ar gyfer llwyddo mewn unrhyw beth mewn bywyd. Y pwerau i allu canolbwyntio am gyfnodau hir, gweithio’n galed, dyfalbarhau, i allu dychmygu, i wella eu hunain, i gymryd risg ac ymdrechu os ydynt yn wynebu anhawster.
A dyna fu, bu’r Cyngor Ysgol wrthi fel lladd nadroedd yn cynllunio, trefnu, hysbysebu llu o weithgareddau  i sicrhau bod y plant yn cael wythnos i’w chofio.

Eleni, mae’r wythnos bellach yn bythefnos. Pythefnos o weithgareddau hwyliog, a heriol sydd yn rhoi’r cychwyn gorau i bob plentyn yn eu dosbarthiadau newydd, gan roi profiadau unigryw, ac amhrisiadwy i’r holl ddisgyblion. Profiadau sydd am roi’r adenydd iddynt hedfan, a’u paratoi ar gyfer y byd mawr.
Cawsant brofiad o wersi drama gan yr amryddawn Cefin Roberts o Ysgol Glanaethwy. Sesiynau Ioga gan Leisa Mererid, dawnsio gan Dawns I bawb. Bu Mr T(Cerddamdani) yn cynnal sesiwn hwyliog o gyfansoddi a pherfformio, a bu rhai yn barddoni gydag Osian Owen. Cadw’n heini gyda Marvin gyda sesiynau Kick boxing oedd ar y gweill un prynhawn, a dysgu sgiliau hanfodol cymorth cyntaf gan Ambiwlans St John ar ddiwrnod arall. Bu ymweliadau i’r rhaffau uchel yn Llanberis, a’r ganolfan ddŵr Conwy, a thaith gerdded noddedig o amgylch yr ardal leol. Cafodd y plant sesiwn Gelf arbennig gan Elen, a chyflwyniad holl bwysig am waith anhygoel yr NSPCC. Oedd wir, roedd rhywbeth at ddant pawb.
Do, bu bwrlwm a chynnwrf ym Mhenybryn am bythefnos, a phawb wedi elwa o’r holl brofiadau.  Hir  oes i ‘Bythefnos 3P’ a diolch i bawb a gyfrannodd, rydym yn gwerthfawrogi’n fawr iawn.

Chwaraeon
Pêl-droed: Llongyfarchiadau i dîm marched Ysgol Pen-y-bryn am chwarae mor arbennig a chynrychioli’r ysgol yng nghystadleuaeth pêl-droed yr Urdd yn Nhreborth. Ennill pedair gem a cholli o un gôl yn unig yn y rowndiau terfynol oedd eu hanes….Ymlaen a ni i’r gêm nesaf!

Rygbi: Cafodd holl ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 y cyfle i chwarae a mwynhau yng nghwmni disgyblion eraill y Dyffryn yn yr Ŵyl Rygbi ar gaeau Dôl Dafydd ym Methesda. Gŵyl wedi’i drefnu’n dda gan Osian, ein Swyddog Datblygu Rygbi'r ardal. Diolch am y gwaith trefnu.


Ysgol Abercaseg

Wythnos Cymru Cwl
Wel am wythnos i gloi hanner tymor yr Hydref yma’n Ysgol Abercaseg. Yn flynyddyol bellach rydym yn cael wythnos ‘Cymru Cwl’ sydd yn dathlu ein Cymreictod a’n diwylliant arbennig yma yng Nghymru. Cawsom wledd eto eleni yng nghwmni artisitaid fel Tudur Phillips yn dysgu’r plant sut i glocsio, a chael cyd-ganu gyda neb llai na Osian Candelas. Braf oedd gweld plant blwyddyn 1 a 2 yn cael y cyfle o ysgrifennu cerdd am yr Hydref gyda’r awdur Casia Wiliam.
Diolch i’r artisitiaid am eu hymroddiad a’u brwdfrydedd yn ystod yr wythnos hon. Heb os, mae’r plant a’r staff wedi cael modd i fyw.

Eisteddfod Ysgol – am y tro cyntaf erioed!
Pinacl yr wythnos oedd cael Eisteddfod Ysgol am y tro cyntaf! Am dalent! Mae dyfodol Eisteddfod Dyffryn Ogwen yn ddiogel iawn gyda’r lleisiau yr ydym wedi eu clywed yn ystod yr Eisteddfod! Braf iawn oedd cael y plant a’r rhieni yn rhan o’r profiad ac heb os yn dod a’r thema ‘Eisteddfod’ yn fyw. Edrychwn ymlaen at yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf gan obeithio am fwy o gystadleuthau i’n diddanu!
Dymunwn fel Ysgol ddiolch i’r plant am eu hymdrechion o ddysgu’r darnau mor wych ac am ddangos ffaswin ymroddiad a brwdfrydedd. Ymlaen â ni i Eisteddfod Dyffryn Ogwen!