YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Newyddion Ionawr 2024

Newyddion Ionawr 2024


PC Andy Jackson
Diolch i PC Jackson am ddod draw i’n gweld y mis yma. Cafodd disgyblion bl 3 a 4 gyflwyniad am bwysigrwydd Diogelwch y We. Cawsant wybod am effeithiau positif a negyddol y we. Gobeithio fod pawb yn cofio y ‘Rheolau SMART’. Cafodd ddigyblion 5 a 6 wasanaeth am effaith cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon ar y corff. Diolch PC Jackson!

Casia Wiliam
Cafodd dosbarth Carnedd chwip o ddiwrnod yng ngwmni Casia Wiliam– Bardd Plant Cymru yn 2017. Daeth Casia atynt i’w dysgu sut mae mynd ati i ysgrifennu stori wych.  Cafodd y plant gyfle i drafod ac i feddwl am   ansoddeiriau  a chymariaethau gwreiddiol, cyn mynd ati I ddisgrifio’u cymeriadau. Diolch Casia– byddwn yn siwr o   ddefnyddio’r sgiliau hyn yn ein gwaith ysgrifennu yn y dyfodol!

Santes Dwynwen
Diolch i’r Parch Sara Roberts am ddod draw i gynnal gwasanaeth Santes Dwynwen arbennig ar gyfer yr holl ysgol. Cawsom glywed hanes Dwynwen yn syrthio mewn cariad, yn torri ei chalon, yn gwneud tri dymuniad cyn rhedeg i ffwrdd i Ynys Llanddwyn, sydd bellach yn symbol o gariad i Gymru gyfan. Diolch I chi y Parchedig  Sara am wasanaeth bywiog a diddorol.

Pythefnos 3P.
Mae dipyn o amser wedi mynd heibio ers ein Pythefnos 3P nôl yn mis Hydref, ond braf oedd gallu atgoffa’r disgyblion o’r profiadau amrywiol a gwerthfawr y cawsant yn ystod y bythefnos mewn gwasanaeth arbennig ddechrau’r flwyddyn. Cawsom fwynhau gwylio ffilm arbennig oedd yn nodi’r holl bethau y gwnaethom. Cafodd pob un disgybl fyg personol i’w atgoffa o’r profiadau a’r sgiliau newydd y maent wedi eu dysgu yn ystod y bythefnos i’w cadw am byth. Edrychwn mlaen yn arw tuag at ein Pythefnos 3P 2024!