Hafan > Newyddion > Newyddion Mawrth 2023
Newyddion Mawrth 2023
Dathlu!!!
Mae mis Mawrth yn fis o ddathlu camp disgyblion Penybryn ym myd chwaraeon. Yn wir, fe gipiodd Ysgol Penybryn y wobr efydd yng ngala nofio i ysgolion Eryri, a dyna beth yw camp allan o unarddeg o ysgolion. Rydym yn hynod falch o bob un ohonoch a nofiodd fel pysgod ym mhwll nofio Bangor. Dathlu bu hanes tîm peldroed merched Penybryn a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth peldroed Ysgolion Gwynedd,2023. Mae’r gwaith caled yn parhau wrth iddynt baratoi at gynrychioli Gwynedd yn y Drenewydd mis Mai. Pob lwc i chi genod, rydym yn edrych ymlaen at glywed am lwyddiannau'r tîm arbennig hwn. Nid ydym ychwaith wedi anghofio am yr hogiau, a gystadlodd mor wych ym Mhlas Silyn yn ddiweddar gyda’r bel gron. Cawsant gemau hyod gyffrous, a chwaraeodd pawb yn wych. Llongyfarchiadau mawr i chithau yn ogystal.
Eisteddfod yr Urdd
Braf oedd gweld unigolion o’r ysgol yn cystadlu yn Eisteddfod Cylch Bangor/Ogwen yn ddiweddar. Bu rhai yn cystadlu gyda’r llefaru a’r canu, a daeth Llio o ddosbarth Tryfan yn drydydd yn y gystadleuaeth Llefaru Bl 3 a 4. Llongyfarchiadau mawr iddi, ac i bawb a gystadlodd ar y diwrnod.
Cipiodd Côr Ysgol Penybryn y drydydd wobr yn yr Eisteddfod Sir yn ogystal. Profiad arbennig i’r plant oedd canu ar lwyfan Bryn Terfel ym Mhontio. Hoffai’r ysgol ddiolch i Debbie Jones a Dafydd Roberts am eu gwaith o hyfforddi.
Diwrnod y Gwalltiau Gwiriron
Roedd plant y ddwy ysgol yn gynnwrf i gyd ar ddiwrnod Trwynau Coch a phawb wedi mynd i ymdrech arbennig i greu gwalltiau gwallgof a gwirion. Diolch i bawb am yr ymdrech ardderchog. Roeddech yn werth eich gweld plant, a llwyddom i godi swm teilwng tuag at yr elusen bwysig yma.
Diwrnod y Llyfr
Braf iawn oedd croesawu’r holl blant i’r ysgol ar achlysur Diwrnod y Llyfr wedi gwisgo fel eu hoff gymeriad o lyfr yn o gystal â dod a’u hoff lyfrau i’r ysgol. Cafwyd hwyl yn defnyddio’r sgrin werdd er mwyn tynnu lluniau mewn ‘llyfrgell’ ffug a threfnu llyfrau o’r hynaf i’r fwyaf diweddar, yn nhrefn yr wyddor a hefyd eu pwyso er mwyn trefnu o’r llyfr ysgafnaf i’r trymaf.
Cyflwyniad a phicnic Masnach Deg
Diolch o galon i Mari, Gruff, Robin, Belle, Gwenno, Owain, Enlli, Mason, Jona a Raven, sef aelodau Ysgol Eco Abercaseg am gyflwyniad gwerth chweil yn esbonio pythefnos Masnach Deg a’n cyflwyno llwyth o wahanol cynnyrch Masnach Deg i gweddill y plant. Yn dilyn y cyflwyniad penderfynwyd gynnal ‘Picnic Masnach Deg’ ble roedd yr aelodau wedi paratoi amrywiaeth o gacennau i’r ysgol gyfan!
Postmon i weld Dosbarth Ogwen
Fel rhan o waith y dosbarth ac i ddysgu mwy ar gyfer yr ardal ‘Swyddfa Bost’ roedd dosbarth Ogwen Abercaseg yn ffodus iawn yn ddiweddar o gael ymweliad gan Gerallt y Postmon. Roedd y plant wedi paratoi llith o gwestiynau ar ei gyfer ac wedi dysgu a mwynhau’n fawr.
Pared Pasg
Cafwyd diwrnod i’r brenin yn ystod yr wythnos olaf a phawb wedi mynd i ymdrech anhygoel ar gyfer ein Pared Pasg. Braf iawn oedd gweld y neuadd yn orlawn gyda rhieni, neiniau, teidiau a ffrindiau yn dilyn 3 mlynedd o beidio gallu gwahanodd cynulleidfa i’r pared. Diolch yn fawr i Marian Arman cadeirydd y llywodraethwyr am ei gwaith anodd iawn o feirniadu’r hetiau a diolch yn fawr iawn i’r holl rieni am eu cefnogaeth ar gyfer y pared yn o gystal â’u cefnogaeth drwy gydol y tymor.