Hafan > Newyddion > Newyddion Mawrth 2024
Newyddion Mawrth 2024
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Cyflwynodd dosbarth Tryfan wasanaeth am Dewi Sant a dathlu ein Cymreictod ar Fawrth y cyntaf, yn ogystal cawsom gyngerdd gwych o’r eitemau oedd y disgyblion am gystadlu yn Eisteddfod Cylch yr Urdd. Diolch i rieni aelodau’r côr a rhai o’r llywodraethwyr am ymuno gyda ni i ddathlu a mwynhau paned a bara brith.
Cyfnod 3C
Mae pawb wedi mwynhau dysgu am y 3C – Cymru, Cymraeg a’n Cymuned. Cawsom bnawn hwyl bendigedig ‘Cymry yn Cyfri’ ble roedd pob dosbarth wedi cynllunio gemau rhifedd yn ymwneud a Chymru er mwyn dathlu Dydd Gwyl Dewi a datblygu sgiliau rhif yr un pryd. Roedd bwrlwm mawr yn y neuadd ac ar yr iard a’r plant wrth eu boddau yn dathlu Dydd Gwyl Dewi mewn steil.
Eisteddfod Yr Urdd
Llongyfarchiadau I Mali Non am dderbyn yr ail wobr am lefaru a chanu ar gyfer Bl3 a 4 yn Eisteddfod Cylch yr Urdd gan fynd ymlaen i gystadlu ar lwyfan mawr Pontio yn yr Eisteddfod Rhanbarth Eryri. Cafodd 3 grŵp o ddisgyblion hefyd y cyfle i gystadlu ar y llwyfan yn y gystadleuaeth Perfformiad Theatrig o Sgript, braf oedd gweld pawb yn mwynhau'r profiad gan berfformio mor hyderus a brwdfrydig. Llongyfarchiadau hefyd i gôr yr Ysgol am dderbyn y drydedd wobr, rydym yn hynod falch o’r plant i gyd.
Diwrnod y Llyfr
Cawsom ddiwrnod i’r brenin ar Ddiwrnod y Llyfr gyda’r disgyblion wedi gwisgo fel cymeriad a dod a’u hoff lyfr i’r ysgol. Mwynhaodd pob dosbarth sesiwn rhithiol wedi ei drefnu gan Darllen Co a chawsom gyfle i newid dosbarthiadau er mwyn i’r disgyblion gael darllen straeon a gofyn cwestiynau i’w gilydd. Cytunodd pawb bod darllen yn dod a llawer o bleser a hwyl.
Twrnament Rygbi a Phêl-Rwyd
Aeth tîm rygbi a thîm pêl-rwyd cymysg o’r ysgol i gystadlaethau’r Urdd, mwynhaodd pawb y profiad gan gyd-chwarae ac ymddwyn yn arbennig
Cyfnod Eco
Mae’r disgyblion wedi cael llawer o brofiadau yn ystod y Cyfnod Eco.
Dŵr Cymru
Treuliodd pob dosbarth sesiwn gyda Catrin o Dŵr Cymru yn gwneud tasgau ymarferol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r hyn allwn wneud i arbed dŵr a dysgu sut i gael y gwerth gorau am arian. Rhannodd Catrin llawer o ffeithiau diddorol megis bod 1 fflysh toiled yn 9 litr o ddŵr!!!
Sgiliau Beicio’n Ddiogel
Mae pob disgybl o Flwyddyn 3 wedi derbyn hyfforddiant pwysig er mwyn dysgu beicio’n ddiogel gyda Carwyn a Jac o Feiciau Antur Waunfawr. Llwyddodd pawb i gael tystysgrif ar ôl dysgu sut i edrych ar ôol eu beiciau gan gofio A- aer yn y teiars, B am y brêcs a C am y chaen a datblygu eu sgiliau ar sut i gadw’n ddiogel wrth reidio beic.
Diogelwch y Ffordd
Daeth Manon o Gyngor Gwynedd i’r ysgol i drafod diogelwch y ffordd a chymerodd pawb ran mewn cwis er mwyn dangos yr hyn oedden nhw wedi ei ddysgu.
Cerdded neu Feicio Milltir y Dydd yn ystod mis Mawrth
Mae pob disgybl wedi ymgymryd a’r sialens a chael ei noddi i gerdded neu feicio milltir y dydd yn ystod mis Mawrth. Cawsom gyfle fel Ysgol gyfan i fynd am dro gyda’n gilydd un bore gan werthfawrogi lle mor braf yw ein hardal leol.
Casglu Sbwriel yn y Gymuned
Mae pob dosbarth wedi bod allan i wahanol ardaloedd yn y gymuned i gasglu sbwriel a dysgu mai cyfrifoldeb y trigolion yw gofalu ac ymafalchio yn harddwch a thaclusrwydd eu cymuned.
Partneriaeth Ogwen
Diolch I Menna a Kyle am ddod a’r beic a cerbyd trydan i’r ysgol er mwyn trafod sut y gallwn leihau ein hol troed carbon wrth deithio.
RSPB Conwy
Mwynhaodd pob disgybl ymweliad a RSPB Conwy. Cafwyd cyfle i fynd ar daith natur gan ddefnyddio ysbienddrych i arsylwi ar wahanol adar yn eu cynefioedd a dysgu ffeithiau amdanynt. Hefyd bu’r plant yn chwilio a chasglu gwahanol drychfilod a’u dosbarthu. Diolch i’r staff yno am rannu eu harbenigedd a rhoi cyfle i’r plant werthfawrogi byd natur.
Ymweld ag Eglwys Glan Ogwen
Diolch i’r Parchedig Sara Roberts am groesawu holl ddisgyblion yr ysgol i’r eglwys i gael Stori’r Pasg a rhannu hanes diddorol yr eglwys. Cafwyd cyfle i holi cwestiynau a chael golwg fanwl ar ffenestri lliw hardd yr eglwys.
Ysgol Abercaseg
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi
Roedd yn hyfryd gwahodd rhieni a chyfeillion i Neuadd yr ysgol ar gyfer gwasanaeth arbennig gan blant bach Abercaseg er mwyn dathlu bywyd ein nawddsant ac ein Cymreictod. Diolch hefyd i Anti Marian am baratoi lluniaeth ar ein cyfer.
Dathlu diwrnod trwynau coch.
Aeth plant yr ysgol i ymdrech arbennig ar ddiwrnod Trwynau Coch i greu gwalltiau gwallgof a gwirion. Diolch yn fawr iawn i bawb am cyfrannu a chefnogi elusen mor bwysig.
Diwrnod y Llyfr
Roedd Dydd Iau y 7fed o Fawrth yn ddiwrnod cyffrous iawn yn yr ysgol i blant Ysgol Abercaseg. Gwisgodd ein disgyblion fel eu hoff gymeriad gan ddod a’u hoff stori i’r ysgol i ddathlu achlysur. Yn ogystal a hyn, aeth plant blwyddyn 2 ati i feddwl am wahanol ffyrdd o drefnu eu holl lyfrau…teitllau, dyddiad cyhoeddi, hyd yn oed nifer y tudalennau! Braf oedd gweld yr holl blant yn trafod a chymharu eu hoff straeon yn yr ysgol.
Pared Pasg
Syniad criw Ysgol Eco Abercaseg oedd i ofyn i blant yr ysgol i baratoi hetiau Pasg o bethau sydd yn gallu gael ei ail-gylchu yn y tŷ. Cawsom ddiwrnod gwych yn arddangos yr hetiau arbennig mewn pared. Hyfryd iawn oedd gweld y neuadd yn orlawn gyda teuleuoedd a ffrindiau’r ysgol. Diolch yn fawr iawn am gefnogaeth pawb gyda’r gwaith paratoi! Diolch hefyd i’r beirniaid a llywodraethwyr yr ysgol sef, y Cyng. Einir Williams, Linda Brown a Marian Arman am gyflawni gorchwyl ddyrys iawn o wobrwyo’r hetiau gorau!
Gweithgareddau Ysgol Eco
Cafodd plant Abercaseg gyfle hefyd i fynd ar daith natur i ganolfan RSPB yng Nghonwy gan ddysgu sut i ddefnyddio ysbienddrych i arsylwi ar wahanol adar yn eu cynefinoedd a dysgu ffeithiau amdanynt. Hefyd bu’r plant yn chwilio a chasglu gwahanol drychfilod a’u dosbarthu. Diolch i’r staff yno am rannu eu harbenigedd a rhoi cyfle i’r plant werthfawrogi byd natur.
Chwynu, Palu a Phlannu!
Mae dwylo bach prysur…a gwyrdd Abercaseg wedi dechrau mynd ati yng nghwmni Alisha bob pnawn dydd Mercher yn patatoi’r tir ar gyfer y gwanwyn a’r haf. Pawb wrth eu bodd yn chwynu, plannu a phalu!