YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Newyddion Rhagfyr 2022

Newyddion Rhagfyr 2022


Wythnos Cymru Cŵl Abercaseg

Cawsom wythnos i’w chofio ar ôl y gwyliau! Fel rhan o’n thema Caru Cymru cynhaliwyd wythnos Cymru Cŵl. Roedd hi’n wythnos yn llawn o weithgareddau  i hybu Cymreictod.

Pel-droed

Gyda Chwpan y Byd ar y gorwel,dechreuodd yr wythnos gyda thîm hyfforddi Nathan Craig! Cafodd y plant fedalau am eu hymdrechion â’r wlad fuddugol yn cael cwpan y byd go iawn!

Creadigol

Fe ddatblygwyd sgiliau creadigol y plant,heb os! Daeth Elen Williams,artist lleol,i greu adennydd y ddraig goch gyda’r plant,rydym yn edrych ymlaen yn arw i’w rhoi i fyny yn y Neuadd.

Ioga a Drama

Roedd pawb wedi blino yn lân erbyn canol yr wythnos,felly diolch byth am sesiynau ioga a drama Leisa Mererid! Cafodd pawb ymlacio a chyfle i fynegi eu hunain mewn arddull cwbl wahanol.

Clocsio

Ar ôl morio canu gyda Dafydd Iwan,pa ffordd well o gael gwared o egni na chlocsio! Cafodd y plant fwynhad enfawr yng nghwmni Tudur,roedd rhai hyd yn oed eisiau pâr o glocsiau gan Sion Corn!

Bardd Plant Cymru

Pa ffordd well o ddatblygu geirfa a phatrymau iaith newydd na chael sesiwn barddoni gyda Casi Wyn, Bardd Plant Cymru. Llwyddwyd i greu cerddi yn seiliedig ar syniadau’r plant am Gymru.

Rapio gyda Ed Holden

Roedd y plant wrth eu boddau yn arbrofi gyda eu lleisiau gyda’r amryddawn Ed Holden. Sesiwn swnllyd yn llawn hwyl a chwerthin!

Mr T

Sesiwn swnllyd arall yn llawn mwynhad oedd y sesiwn cerdd gyda Gethin Thomas,y cerddor nid y Pennaeth!!

Hoffai’r ysgol ddiolch i’r artistiaid am wythnos arbennig yn llawn profiadau bythgofiadwy. 

Jambori Cwpan y Byd Yr Urdd

Roedd Yma o Hyd yn atsain dros yr ysgol pan ymunodd disgyblion Pen-y bryn ac Abercaseg gyda dros 230,300 o blant ddaeth at ei gilydd yn ddigidol ar gyfer Jambori Yr Urdd, cafwyd cyfle i ganu rhai o'r hen ffefrynnau yn ogystal â chaneuon newydd Cwpan y Byd. Gwisgodd bawb goch i gefnogi tîm Cymru a mwynhau gwledd o ddawnsio a chanu yng nghwmni criw Stwnsh gyda ymddangosiad arbennig gan Dafydd Iwan. 

Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd

Rydym wedi mwynhau gwneud tasgau yn seiliedig ar Gwpan y Byd fel rhan o’n gwaith thema y tymor hwn. Mae pob disgybl wedi cael tîm i’w ddilyn fel rhan o swîp eu dosbarth felly rydym wedi bod yn ymchwilio i mewn i’r gwledydd ac yn gwneud gweithgareddau rhifedd yn ymwneud ag arian, amser a data. Wrth gwrs rydym wedi bod yn dilyn tîm Cymru’n ofalus gan wneud posteri a chanfas fawr i ddangos ein cefnogaeth. Yr uchafbwynt oedd cael gwylio gêm Cymru yn erbyn Iran gyda disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn gwylio’r gêm yn neuadd yr ysgol a blwyddyn 5 a 6 yn cael mynd i’w gwylio ar y sgrin fawr yn Neuadd Ogwen. Gwisgodd bawb goch a chwifio baneri Cymru gan fwynhau’r achlysur arbennig er gwaethaf y canlyniad siomedig.

Ymweld â Llyfrgell Bethesda

Cafodd pob dosbarth gyfle i fynd i’r llyfrgell er mwyn ymaelodi a dewis dau lyfr i ddarllen adref. Yn ogystal a hyn cafwyd cyfle i wneud gweithgareddau o ddidoli llyfrau a’u trefnu a darganfod llyfrau penodol ar y silffoedd pryd oedd defnyddio’r wyddor yn sgil hanfodol. Diolch o galon i Marian a Ceri am y croeso cynnes, a cofiwch fynd yno i’w gweld yn gyson.

Apel Bocsys Esgidiau T4U

Ar ôl gwylio clipiau fidio gan T4U roedd disgyblion Pen-y-bryn yn awyddus i gefnogi’r apel i greu bocsys esgidiau yn llawn anrhegion ar gyfer plant llai ffodus eto eleni. Casglwyd 45 o focsys o’r ysgol yn barod I’w hanfon I Romania ac Wcrain.

Gwyrdd Ni

Aeth 10 o ddisgyblion Blwyddyn 6 i Ysgol Dyffryn Ogwen i gyfrannu at brosiect Gwyrdd Ni. Roedden nhw’n llawn syniadau positif ar gyfer dyfodol y Dyffryn.

Eisteddfod Dyffryn Ogwen

Roeddem fel ysgol yn falch o gael y cyfle i gefnogi Eisteddfod Dyffryn Ogwen unwaith eto ar ôl saib dros gyfnod y pandemig. Bu’r plant yn llefaru, canu a dawnsio ar y llwyfan yn ystod y diwrnod yn ogystal a chystadlu yn yr adran gwaith cartref. 

Diwrnod blasu Blwyddyn 6 yn Ysgol Dyffryn Ogwen

Treuliodd Blwyddyn 6 y diwrnod yn Ysgol Dyffryn Ogwen er mwyn cael blas o’r hyn fydd o’u blaenau ym Mlwyddyn 7. Cawsant gyfle i gyfansoddi cân gyda’r gŵr gwadd Emyr Gibson, chwarae rôl a chynnal dadl o blaid ac yn erbyn cynnal Cwpan y Byd yn Qatar yn ogystal a chreu darn o waith celf ar thema Cwpan y Byd. Diolch i’r staff a’r disgyblion am y croeso.

Ffair Nadolig

Cynhaliwyd Ffair Nadolig gyda stondinau amrywiol ac ymweliad gan Siôn Corn gan Gyfeillion Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg yn Neuadd Ogwen. Fel rhan o’u gwaith mentergarwch bu bob dosbarth yn brysur yn creu cynyrch i’w werthu gan weithio allan y costau cynhyrchu, a phrisio’r nwyddau’n deg gan sicrhau eu bod hefyd yn gwneud elw. Diolch i bawb am gefnogi’r Ffair.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

Ffair Nadolig
 
 
  • Ffair Nadolig
    Ffair Nadolig
  • Gweithdy Celf Abercaseg
    Gweithdy Celf Abercaseg
  • Ymweld â Llyfrgell Bethesda
    Ymweld â Llyfrgell Bethesda
  • Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd
    Cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd
  • Clocsio
    Clocsio