Hafan > Newyddion > Newyddion Rhagfyr 2023
Newyddion Rhagfyr 2023
Mr Phormula
Diolch mawr i Mr Phormula (Ed Holden) am ymweld â phlant Ysgol Abercaseg yn ddiweddar. Cafwyd sesiwn ‘beatbocsio’ gyda phawb yn o gystal ag ysgrifennu a pherfformio rap gwreiddiol gan y plant hynaf.
Canu i Blas Ogwen
Bendigedig oedd cael mynd a chriw blwyddyn 2 dosbarth Ffrydlas, Abercaseg a chôr Ysgol Penybryn i Blas Ogwen berfformiad casgliad o ganeuon Nadolig i’r preswylwyr a’r staff. Roedd plant Abercaseg wedi paratoi rhestr siopau ar gyfer prynu rhoddion i bawb – yn fins peis, bisgedi, cacennau siocled a llawer mwy ac roedd pawb wedi gwirioni. Nid yn caneuon Nadoligaidd yn unig a cafwyd eu canu ond can i ddymuno penblwydd hapus i ddwy oedd yn newydd ddathlu eu penblwyddi yn 100 oed! Diolch mawr am y croeso cynnes a hefyd am y danteithion a’r bisgedi blasus. Mae’r plant yn edrych ymlaen at gael mynd yn ôl i fwynhau cwmni preswylwyr Plas Ogwen eto’n fuan.
Trip Pili Palas
Cafwyd diwrnod i’r brenin yn ystod mis Rhagfyr pan aeth pob un o blant Abercaseg ar drip i Pili Palas. Nid yn unig gweld yr holl anifeiliaid a chwarae tu mewn a thu allan oedd ar yr amserlen ond roedd y dyn ei hun, Sion Corn yno yn disgwyl am y plant gydag anrheg ar gyfer pob un.
Chwaraeon
Cafodd tîm pêl-droed bechgyn Ysgol Penybryn cryn lwyddiant yn ddiweddar. Yn dilyn gemau cyfeillgar (tîm merched a bechgyn) yn erbyn Ysgol Tregarth, aeth y tîm bechgyn ymlaen i gystadlu mewn twrnamaint pêl-droed yr Urdd yn Nhreborth ble roedd dros 30 o ysgolion yn cystadlu! Yn wir, aeth tîm y bechgyn ymlaen i’r ffeinal heb ildio’r un gêm, ond colli o 3-0 yn erbyn tîm cryf iawn o Fethel oedd eu hanes yn y diwedd. Er hyn, roeddynt wedi chwarae’n arwrol ac yn rhoi eu gorau glas. Da iawn chi hogia Pesda!
Cinio Nadolig
Diolch o galon eto eleni i Anti Marian, Anti Nerys, Anti Sandra, Anti Dona ac Anti Wendy am ginio Nadolig blasus dros ben. Y ‘pigs in blankets’ oedd hoff beth Enlli ond y pwdin siocled gyda hufen ia oedd ffefryn Isla!
Sioe Gerdd – Olifar
Cafodd adranau Iau ysgolion y dyffryn wahoddiad arbennig i Ysgol Dyffryn Ogwen i fwynhau ‘premier’ o’u cynhyrchiad arbennig ‘Olifar’. Wel am sioe a pherfformiadau anhygoel gan nifer helaeth o gyn-ddisgyblion ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg
Pontio
Cafodd disgyblion Pen-y-bryn modd i fyw wrth gael trip lawr i Fangor i wylio ffilm newydd ‘Wonka’. Braf oedd cael ymlacio ar ddiwedd tymor ymysg ffrindiau da, pop corn a diod o pop fel rhan o’r fargen!
Gwasanaethau Nadolig
Braint oedd cael gwahodd teuluoedd a ffrindiau plant yr ysgol i gyngherddau’r ddwy ysgol eto eleni. Cynhaliwyd un yn yr ysgol gan blant y Dosbarth Meithrin a dau yn Eglwys Glanogwen gan blantos llawn amser Abercaseg, ac un arall gan ddisgyblion Ysgol Pen-y-bryn. Braf gweld y ddwy noson yn yr eglwys dan ei sang. Diolch o galon i’r Parch. Sara Roberts ac i aelodau’r eglwys am y croeso cynnes ar gyfer yr ymarferion a hefyd ar y nosweithiau gyda phaned, bisged a chacen ar gael yn dilyn y gwasanaethau. Diolch hefyd i ‘Caron Emlyn Sain’ am drefnu a pharatoi’r system sain ar gyfer cyngherddau’r ddwy ysgol. Roedd y plant werth eu gweld a phawb, yn staff, rhieni a ffrindiau yn falch dros ben.