Hafan > Newyddion > Newyddion Tachwedd 2023
Newyddion Tachwedd 2023
Plant Mewn Angen
Braf oedd gweld pawb yn eu dillad eu hunain neu wedi gwisgo fyny ar gyfer diwrnod Plant Mewn Angen. A diolch hefyd i griw blwyddyn 2 am wasanaeth arbennig yn egluro ychydig mwy am yr elusen a phwy mae’r elusen yn ei helpu.
Ffair Nadolig.
Cynhaliwyd Ffair Nadolig llwyddiannus dros ben gan gyfeillion yr ysgol yn ddiweddar. Roedd Neuadd Ogwen yn fwrlwm o brysurdeb llawn amrywiaeth o stondinau, crefftau gan y plant, tombola enfys, cwmnïau lleol ac yn bwysicach fyth y dyn ei hun - Siôn Corn! Diolch i’r cyfeillion am drefnu a diolch i bawb am gefnogi.
Casglu sbwriel
Bu plant Ysgol Abercaseg ac Ysgol Pen-y-bryn yn brysur iawn yn ddiweddar yn helpu, Anna o Bartneriaeth Ogwen, Chris o 'Gwyrdd Ni' a Morgan Swyddog Cynnal Ogwen i gasglu sbwriel o amgylch yr ardal. Cafodd pob dosbarth gyfle i gasglu sbwriel a hefyd i gael sgwrs am bwysigrwydd peidio â llygru a’r effaith mae hyn yn cael ar ein hamgylchedd a bywyd gwyllt. Da iawn pawb am weithio mor galed yn tacluso’n hardal ni.
Dreigiau’r Dyffryn
Mae’r criw cyntaf o blant wedi cael bod yng Nghampfa Dreigiau’r Dyffryn yn mwynhau ar yr holl offer arbenigol. Cafodd y plant modd i fyw a phawb wedi blino’n lan ar y ffordd yn ôl i’r ysgol. Braf hefyd oedd cael llogi a gwneud defnydd o Fws Ogwen. Gan fod y plant wedi cael gymaint o hwyl mae’r ysgol wedi trefnu bod gweddill dosbarthiadau Abercaseg yn cael mynd yn eu tro. Diolch i Sophie Pipe oDreigiau’r Dyffryn a Phartneriaeth Ogwen am gludo’r hen blantos i Goed y Parc!
Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen
Da iawn i bawb a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Dyffryn Ogwen. Roedd holl blant y ddwy ysgol wedi bod yn brysur yn arlunio, gwneud gwaith llaw a rhai o ddisgyblion Pen-y-bryn wedi mentro efo’u llawysgrifen! Yn wir, cafodd sawl un wobr haeddiannol ar y llwyfan gan gynnwys yr unawdwyr a pharti llefaru a’r côr o Ysgol Pen-y-bryn. Da iawn chi, mae holl staff Abercaseg a Phen-y-bryn yn hynod o falch i bob un wan jac ohonoch! Diolch hefyd i’r staff amryddawn sydd yn y ddwy ysgol am eich hyfforddi.
Clefyd Siwgr
Bu disgyblion Ysgol Pen-y-bryn yn gwisgo glas er mwyn codi ymwybyddiaeth at Glefyd Siwgr. Diolch i ddwy eneth ddewr iawn, Evangaline ac Ayla o Flwyddyn 4 a 5, am gyflwyno stôr o wybodaeth i weddill yr ysgol a son am eu profiadau hwy o fyw â’r cyflwr.
Pêl-droed
Cafodd tîm pêl-droed merched Ysgol Pen-y-bryn a thîm y bechgyn y fraint o groesawu dau dîm o Ysgol Tregarth ar bnawn braf ym Mhlas Ffrancon. Braf oedd cael cymysgu a gwneud ffrindiau newydd. Mae tîm y bechgyn yn gobeithio efelychu llwyddiant y merched yng nghystadleuaeth yr Urdd ar y 1af o Ragfyr….Edrychwn ymlaen at ddarllen yr hanes yn rhifyn nesaf y Llais!
Noson Ffilm
Braf oedd gweld llond neuadd o blant yn mwynhau noson ‘pictiwrs’ yn Abercaseg. Yr hen ffefryn Disney ‘Toy Story’ oedd yn eu diddanu, heb anghofio diod a phop-corn wrth gwrs! Yn dilyn llwyddiant y noson, mae Ysgol Abercaseg yn dymuno cynnal nosweithiau tebyg yn fisol.
Bocsys Esgidiau T4U
Yn dilyn llwyddiant casglu bocsys sgidiau'r llynedd, roedd disgyblion y ddwy ysgol yn awyddus i gefnogi’r apêl i unwaith eto eleni drwy greu bocsys yn llawn anrhegion ar gyfer plant llai ffodus. Casglwyd nifer sylweddol o focsys o’r ddwy ysgol yn barod I’w hanfon I Ddwyrain Ewrop. Diolch i’r holl rieni am eich cefnogaeth.
Profedigaeth
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at Miss Ffion Jones, Ysgol Penybryn, a’r teulu oll ar golli ei brawd. Hefyd i Mrs Catrin Jones, Ysgol Abercaseg ar golli ei thad yng nghyfraith. Mae ein meddyliau gyda'r teuluoedd ar yr adeg anodd hon.
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i holl ddarllenwyr Llais Ogwan, cadwch olwg yn y rhifyn nesaf o’r Llais am holl hanesion, anturiaethau a dathliadau'r Ŵyl o’r ddwy ysgol!