Hafan > Newyddion > Teithiau Addysgol
Teithiau Addysgol
Ymysg nifer o ymweliadau addysgol eraill, cafodd plant Abercaseg diwrnod i’w gofio wrth deithio dros y bont i Fferm y Foel ym Mrynsiencyn er mwyn dysgu mwy am ofalu am anifeiliaid a byd natur. Cafodd Blwyddyn 2 hefyd y fraint o gael diwrnod llawn hwyl yng Nghelli Gyffwrdd, am hwyl a sbri!
Bydd plant Pen-y-bryn yn ymweld â Gelli Gyffwrdd unwaith eto a phlantos Abercaseg yn mynd am drip I Sw Bae Colwyn cyn diwedd y tymor! Mae ‘na hen edrych ymlaen yn wir!