Hafan > Newyddion > Wythnos 3 P
Wythnos 3 P
Dyma’r tro cyntaf erioed i ni ym Mhenybryn gynnal Wythnos 3P ac yn sicr nid dyma’r tro olaf. Heuwyd yr hedyn cyntaf gan y Cyngor Ysgol nôl ym mis Medi pan ofynnwyd iddynt greu gweledigaeth newydd sbon i’r ysgol. Y prif beth oedd yn bwysig i’r plant oedd eu bod yn cael ystod o brofiadau newydd ac unigryw a chael cyfleoedd i ddefnyddio’r pwerau dysgu ( sef gweithio’n galed, canolbwyntio, dyfalbarhau, datrys problemau, ymdrechu, dychmygu, cymryd risg a gwella eu hunain) gan sicrhau fod popeth yn ateb gofynion y pedwar diben sef sylfaen ac angor Cwricwlwm Newydd i Gymru. Mae dau ben yn well nac un medda nhw, a dyna ddigwyddodd.
O ganlyniad aeth y Cyngor ysgol ati i drefnu cyfres o weithgareddau a oedd yn diwallu’r holl anghenion uchod- ‘job’ a hanner yn ddiamheuaeth. Cawsom arbenigwyr i gynnal gweithdai gyda’r plant yn yr ysgol o ‘Kick Boxing’ i sesiynau Yoga a cherdd. Daeth yr Urdd atom i gynnal sesiynau ffitrwydd. Ymweliadau a’r Ganolfan Rhaffau Uchel yn Llanberis, Plas Menai a Paint Ball yn Neiniolen. Hefyd cyfle i goginio smwthis a choginio prydau iachus yn yr ysgol a roddodd gyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhifedd. Gwaith cartref Robin risg, i drio rhywbeth newydd a herio eu hunain. Cynhaliwyd sesiynau cymorth cyntaf i’r plant a llawer o weithgareddau meddylgarwch. Bum ar daith gerdded noddedig yn yr ardal leol ar hyd Llon Las Ogwen, a’r uchafbwynt yn ddi-os oedd cael gwylio ffilm yn Neuadd Ogwen ar y bore Gwener olaf. Braf oedd cael cyflwyno anrheg i bob plentyn yn yr ysgol ar ddiwedd yr wythnos, sef llun ohonynt ar lechen fel atgof o’u dewrder a’u gwaith caled.
Do, fe gafodd y plant brofiadau a sgiliau newydd, unigryw, a fydd gyda hwy gydol eu hoes er mwyn eu datblygu’n unigolion iach a hyderus, mentrus a chreadigol, egwyddorol a gwybodus ac wrth gwrs yn uchelgeisiol a galluog. Hir oes i’r Wythnos 3P yn ein barn ni!!!