YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Newyddion > Y Gymraeg yng Nhymuned Pesda

Y Gymraeg yng Nhymuned Pesda


Y Gymraeg yng Nhymuned Pesda!

Mae plant Ysgol Abercaseg a Phen-y-Bryn, Bethesda, wedi derbyn clod arbennig am eu gwaith ym maes y Gymraeg yn ystod y flwyddyn ysgol bresennol.

Mae’r disgyblion wedi datblygu eu sgiliau llafaredd Cymraeg drwy ymarfer yr elfennau creiddiol hynny sy’n arwain at fod â gafael gadarn ar eu hiaith, megis dysgu patrymau brawddegau, ymestyn eu geirfa, datblygu eu cystrawen a’u gallu i dreiglo’n hyderus a naturiol.

“Fel ysgol, rydym wedi cynnal gweithgareddau ymhob dosbarth ac ar draws yr ystod oed, gan weld datblygiad sylweddol o ran hyder y disgyblion i gyd-weithio, trafod a pherfformio yn y Gymraeg,” meddai’r Pennaeth, Gethin Thomas.

“Cafodd hyn ei nodi yn glir gan swyddogion gwasanaeth gwella ysgolion GwE a llywodraethwyr yr ysgol mewn adroddiad yn dilyn ymweliadau ar ddiwedd y tymor cyntaf.

“Yna, aethpwyd â’r sgiliau hyn allan o’r ystafelloedd dosbarth fel rhan o thema’r ail dymor, sef ‘Cymraeg a Chymuned’ a lansiwyd ar Ddydd Gŵyl Dewi, gyda llu o weithgareddau ar y cyd â phartneriaid lleol.”

Cafwyd sesiynau garddio, a roddodd gyfle i’r disgyblion ddod i adnabod y storfa gyfoethog o dermau natur sydd gan y Gymraeg, a chafwyd sawl taith dywys o amgylch yr ardal yng ngofal trigolion lleol a gyflwynodd agweddau ar hanes a daearyddiaeth y fro i’r plant.

Fel rhan o’r gweithgareddau, cafwyd enghraifft wych o bontio’r cenedlaethau hefyd, wrth i ddisgyblion y ddwy ysgol ymweld â chartref henoed Plas Ogwen a threulio oriau yn sgwrsio â’r preswylwyr.

Ychwanegodd Gethin Thomas: “Bu cyfle i rieni ymweld â’r ysgolion ar foreau agored er mwyn gweld gwaith eu plant a chwarae gemau bwrdd yn eu cwmni. Ein amcan oedd tanlinellu pwysigrwydd y Gymraeg fel iaith addysg, iaith gymunedol ac fel adnodd gwerthfawr sy’n cael ei feithrin a’i annog ar yr aelwyd.

“Dyma ddangos bod caffael a chynnal iaith yn rhywbeth y gellir eu gweithredu ar sawl lefel ond sy’n perthyn i’r un tapestri cyfoethog yn y bôn. Hynny ydi, mae datblygu sgiliau llythrennedd a llafaredd yn sylfaen hollbwysig.

“Ond er mwyn ennill llawnder y profiad o fod yn ddinesydd dwyieithog hyderus yng Nghymru’r dyfodol – Cymru 2050 a’i miliwn o siaradwyr Cymraeg, er enghraifft – rhaid wrth elfennau megis gwybodaeth o hanes lleol, ymwybyddiaeth o natur a daearyddiaeth yr ardal ac ymgysylltu cyson rhwng pobl â’i gilydd, o gefndiroedd a chenedlaethau amrywiol.

“Rydym eisoes wedi cael rhybudd o fath nad yw iechyd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn rhywbeth y gellir ei gymryd yn ganiataol.

“Pan gyhoeddwyd ystadegau Cyfrifiad 2021 y llynedd, roedd gweld bod canran siaradwyr y Gymraeg wedi dirywio yn ystod y ddegawd a aeth heibio, a hynny er gwaethaf yr holl ymdrechion i’w datblygu, ei hyrwyddo a’i gosod oddi mewn i gyd-destunau cyfreithiol, yn destun siom a phryder amlwg.

“Ychwanegwyd at y pryder wrth weld mai ymhlith plant a phobl ifanc y cafwyd y cwymp mwyaf mewn niferoedd, gan fygwth gosod y patrwm hwnnw fel gwythïen fydd yn nadreddu drwy dirwedd y Gymraeg am genedlaethau.

“Dyma danlinellu, felly, yr angen am yr holl waith hanfodol sy’n digwydd yn ein hysgolion cynradd a gallu gwirioneddol y gwaith hwnnw i newid a chyfoethogi bywydau.”

“Mae’r diolch i’r staff am eu gwaith diflino a’u hymroddiad er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw yn Nyffryn Ogwen am ddegawdau i ddod”

“Mae’n gyfrifoldeb arnom oll i gyrchu’r nod, er mwyn rhoi pob cyfle i’n plant fyw a gweithio yng Nghymru’r dyfodol, yn ddinasyddion hyderus mewn cymunedau sy’n ffynnu.”