Hafan > Newyddion > Ymweliad Llyfrgell
Ymweliad Llyfrgell
Darllen, darllen, a mwy o ddarllen- dyna yw ein nod ni ym Mhenybryn. Felly pa ffordd well i annog hyn na threfnu ymweliad ar gyfer bob dosbarth a’n llyfrgell leol yma ym Methesda. Cawsom groeso cynnes yno, a llawer o wybodaeth am be sydd gan y llyfrgell i’w gynnig i drigolion Dyffryn Ogwen. Diolch o galon am y croeso, ac edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r gwasanaeth pwysig hwn yn y dyfodol agos.