Home > News > Criced (Welsh only)
Criced (Welsh only)
Aeth ugain o blant blwyddyn 6 i ŵyl Griced yng nghaeau’r clwb lleol yn ddiweddar. Bu chwarae a chystadlu brwd rhwng ysgolion y dalgylch, a’r haul yn gwenu’n braf arnynt. A gwenu fel giât oedd y tîm buddugol o Ysgol Penybryn, a lwyddodd i ddod i’r brig mewn cystadleuaeth o safon uchel. Llongyfarchiadau mawr i chi blant, a diolch i Mr Glyn Jones a Miss Lisa Hughes am eu gofal a’u cefnogaeth yn ystod y diwrnod.