YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Ffarwelio (Welsh only)

Ffarwelio (Welsh only)


Ymysg ffarwelio â disgyblion Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 eleni, rydym hefyd yn ffarwelio ac yn dymuno’n dda i aelodau o staff o’r ddwy ysgol. Mae Miss Glesni Jones, Miss Glesni Edwards (Pen-y-bryn) a Miss Hannah Burton (Abercaseg) wedi bod hefo ni ar gytundeb dros dro am flwyddyn ac wedi llwyddo i gael swyddi dysgu newydd ym mis Medi. Dymunwn fel ysgolion yn dda iawn iddynt ar gyfer y dyfodol gyda diolch hefyd am eu gwaith diflino.

Gyda chalon drom hefyd rydym yn ffarwelio gyda Miss Siân Griffiths. Mae Siân wedi bod yn aelod amhrisiadwy o staff Ysgol Abercaseg ers 16 o flynyddoedd. Heb os, mae wedi mynd y filltir ychwanegol i blant, rhieni a staff Ysgol Abercaseg ac rydym fel staff a chenedlaethau o blant wedi bod yn hynod o ffodus yn cael cymhorthydd medrus, gweithgar a charedig. Yn sicr, mi fydd bwlch mawr ar ei hôl. Dymunwn yn dda iddi yn y maes gofal ac iechyd yn yr haf.