Home > News > Glan Llyn (Welsh only)
Glan Llyn (Welsh only)
Glan Llyn
Heidiodd llond bws o ddisgyblion blwyddyn 5 i wersyll yr Urdd Glan-llyn ddiwedd mis Medi i fwynhau’r holl weithgareddau sydd gan y gwersyll i’w gynnig.
Doedd dim eiliad i’w wastraffu wrth i’r plant ddringo a mentro ar y rhaffau uchel, nofio, bowlio deg, saethyddiaeth, a threulio oriau ar Lyn Tegid yn rhwyfo’n braf.
Yn ddi-os, cafwyd tridiau gwerth chweil, ac yn sicr bydd plant Penybryn yn trysori’r atgofion melys hyn am flynyddoedd i ddod.