YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Gweledigaeth yr Ysgol gyda Mr Ed Holden (Welsh only)

Gweledigaeth yr Ysgol gyda Mr Ed Holden (Welsh only)


Yn dilyn llwyddiant ein ffilm cyflwyno Cwricwlwm i Gymru, y cam nesaf oedd creu gweledigaeth i’n hysgol.

Wrth gwrs,  fe gawsom fewnbwn pawb, ond  llais y plentyn oedd yn ganolog i’n gweledigaeth. Aeth pob dosbarth ati i leisio eu barn a dweud beth oedd yn bwysig iddyn nhw yn y byd sydd ohoni.

Roedd angen meddwl am ffordd gryno, hwyliog o gyflwyno’r syniadau- felly dyma wahodd Mr Ed Holden at flwyddyn 6 er mwyn cyflwyno’r weledigaeth yn gyfoes a chŵl. Mae’r cyfanwaith yn werth i’w glywed a’i weld, coeliwch ni!