YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Newyddion Chwefror 2024 (Cymraeg yn Unig)

Newyddion Chwefror 2024 (Cymraeg yn Unig)


Diwrnod Miwsig Cymru

Cawsom ddiwrnod i’r brenin yn dathlu Diwrnod Miwsig Cymru ym Mhenybryn ac Abercaseg ar Chwefror 19eg. Diwrnod o ddathlu fod ganddom artistiad talentog a stôr o ganeuon unigryw yn ein mamiaith. Bu blwyddyn chwech wrthi’n ddygn yn trefnu’r diwrnod yn Ysgol Penybryn. Cafodd pob plentyn waith cartref i wrando a gwerthuso 10 o hoff ganeuon dosbarth Elidir. Yna parti i bob dosabrth a oedd wedi ei drefnu gan flwyddyn chwech.  Cyfle i chwarae bob math o gemau traddodiadol i gerddoriaeth Cymraeg a chwis adnabod y gân a’r artist. Diwrnod  llawn hwyl ac yn werthfawrogol bod ganddom ystod o ddewis i’n diddanu.

Roedd pawb wrth eu boddau yn Ysgol Abercaseg hefyd, gyda digon o gyfleoedd i wrando ar gerddoriaeth Cymraeg gan lu o artistiaid a bandiau Cymraeg  a chafodd pawb y cyfle i werthuso'r caneuon a dod o hyd i hoff gan bob dosbarth!

  • Children playing games

Siarter Iaith-

Cyfnod 3 ar gychwyn – Cymru,Cymraeg,Cymuned

Do, mae cyfnod 3 C wedi cychwyn ym Mhenybryn. Cyfnod i ddathlu ein Cymreictod, ein hiaith a’n Cymuned. Rhoddodd y Cyngor Ysgol gyflwyniad arbennig yn y gwasaneth yn nodi beth oedd eu bwriad am y tymor nesaf, ac oes mae yna wledd o weithgareddau wedi eu trefnu I blant Penybryn. Edrychwn ymlaen i rannu’r bwrlwm a’r holl weithgaredau gyda chi yn y rhifyn nesaf o Llais Ogwen.

Siaradwr Cymraeg Yr Wythnos

Er mwyn hyrwyddo defnydd o’r iaith Gymraeg yn yr ysgol rydym wedi croesawu ‘Dan y Ddraig’ i bob dosbarth yn Abercaseg. Bydd un plentyn o bob dosbarth yn cael eu dewis fel Siaradwr Cymraeg yr wythnos ac felly yn cael y cyfle i fynd a Dan y Ddraig adref dros y penwythnos gan dynnu lluniau neu ysgrifennu am eu hanturiaethau. Rydym yn edrych ymlaen at weld ac i glywed yr holl hanesion!

Ysgol Eco

Mae Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg yn rhoi pwyslais mawr ar bwysigrwydd bod yn wyrdd a gofalu am y gymuned gydol y flwyddyn, ond mae cyfnod cyffrous ar droed i ddisgyblion y ddwy ysgol gyda llu o weithgareddau wedi trefnu ar eu cyfer gan y Grŵp Eco. Edrychwn ymlaen at wersi beicio, Kurb Craft, gweithdy gan Dŵr Cymru, ymweld a RSPB, glanhau a chasglu ysbwriel o amgylch y gymuned, helpu’r banc bwyd lleol a llawer mwy. Cewch flas o’r digwyddiadau a lluniau i’ch diddori yn y rhifyn nesaf o Llais Ogwen.

Diwrnod Blasu Dyffryn Ogwen

Tro Blwyddyn 4 oedd ymweld a Ysgol Dyffryn Ogwen y tro hwn. Roedd pawb wedi mwynhau bore o wersi difyr a chinio hynod flasus cyn dychwelyd yn ôl gyda boll lawn a gwên ar wyneb pob un. Diolch o galon i bawb yn Nyffryn Ogwen am wneud y profiad yn un i’w gofio i’n disgyblion, ond yn bwysicach rhoi blas iddynt o’r holl gyfleoedd gwych sydd o’u blaenau pan yn trosglwyddo I’r uwchradd yn y dyfodol.

  • Year 4 children having cooking lessons in Ysgol Dyffryn Ogwen

Christingle

Diolch yn fawr unwaith eto i’r Parchedig Sara Roberts am ymweld â phlant Blwyddyn 1 a 2, Ysgol Abercaseg er mwyn cwblhau gweithgareddau Christingle. Roedd y plant wedi mwynhau yn arw cael cyfle i ddysgu am y traddodiad a mynd ati i greu!

  • Children doing activitives with Sara Roberts
  • Children doing activitives with Sara Roberts

Ffarwelio

Rydym wedi ffarwelio a Miss Erin Davies  a fu’n aelod gwerthfawr o staff yr ysgol. Diolch iddi am ei chefnogaeth a’i gwaith caled wrth gefnogi’r disgyblion. Pob dymuniad da iddi!

  • Mixed year 3 and 4 rugby team
  • Boys rugby team
  • Girls Year 5 and 6 rugby team