YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Newyddion Chwefror 2024 - (Welsh Only)

Newyddion Chwefror 2024 - (Welsh Only)


Croeso nol
Braf oedd croesawu pawb yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau’r Nadolig a chlywed eu hanesion – roedd pawb wrth eu boddau gyda’u anrhegion gan Sïon Corn.

Criw Cymru Cŵl
Cafodd Criw Cymru Cŵl eu hethol yn ddiweddar- llongyfarchiadau Caleb, Catrin, Isla, Mason a Loti. Bu’r Criw yn cadw’n brysur yn syth gan fynd ati i baratoi gweithgareddau gwych ar gyfer dathlu diwrnod Santes Dwynwen. Bu rhai yn brysur yn gwrando a darllen y stori, gwneud cardiau ac wrth gwrs dawnsio a chanu mewn disgo! Nawr mae’r sylw yn troi at ddarparu gweithgareddau ar gyfer dathlu Diwrnod Miwsig Cymru!

Penwythnos Gwylio Adar Yr Ardd
Er mwyn dathlu Penwythnos Gwylio Adar Yr Ardd RSPB mae criw o blant wedi bod yn brysur yn chwilio am adar a chofnodi pob un ar eu rhestr. Maent hefyd wedi bod yn dysgu gwahanol enwau adar a’u labelu.

Gwasanaeth Dosbarth Ffrancon
Fel rhan o’u thema ‘Y Tri Mochyn Bach’ mae dosbarth Ffrancon wedi bod yn brysur yn dysgu'r stori oddi ar eu cof gan ddefnyddio amryw o symudiadau. Cafwyd cyfle i berfformio’r stori mewn gwasanaeth ysgol lle'r oedd pawb wedi gwirioni gyda’u hymdrechion. Da iawn chi Dosbarth Ffrancon!

  • Children performing
  • Happy child
  • Happy child
  • Happy child