YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Newyddion Ebrill 2024 (Welsh Only)

Newyddion Ebrill 2024 (Welsh Only)


(Welsh Only)

Dewch gyda ni i’r Sw… wel am hlibalw!

Wel am fis Ebrill prysur a hwyliog! Cawsom fodd i fyw yn Sw Caer ,a pha sbardun gwell i ddechrau ein thêm ‘Anifeiliaid’. Cafodd y plant ddiwrnod addysgiadol gan ddysgu nifer o ffeithiau difyr am y llu o anifeiliaid gwahanol sydd yno. Nid oedd hin bosib i ni gerdded heibio’r parciau anhygoel sydd yno, felly cawsom amseroedd chwarae go wahanol y diwrnod hwnnw! Ar ôl cerdded cymaint ar hyd a lled y sw, roedd modd gweld pwy oedd yn flinedig wrth weld y llygaid bach yn cau ar y ffordd adref!!

  • Children standing infront of a giraffe
  • A child standing next to a lion

Pili-Palas

Ar fore dydd Gwener heulog, aeth criw o’r Meithrin a’r Derbyn i fyd o bili palas! Cawsom drip bythgofiadwy wrth arsylwi a dysgu ffeithiau am y Lindys a’r Pili Pal, ac er mwyn sbarduno’r thêm ‘Y Lindys Llwglyd Iawn’. Roedd y mwynhad i’w weld yn amlwg ar wyneb pob plentyn, atgofion y bydd ar gof a chadw am byth.

  • Children looking at butterflies

Awtistiaeth

Fel rhan o’r diwrnod codi ymwybyddiaeth am awtisitiaeth,gwisgodd y plant yn lliwgar gan dalu £1 am y fraint. Llwyddwyd i godi £56, a fydd yn gymorth enfawr wrth brynu adnoddau ar gyfer y Grŵp Enfys. Cafwyd wasanaeth fel Ysgol am awtisitiaeth, ac fel lunwyd murlun sydd yn cryfhau’r neges mai un jig-so mawr ydym ni yma’n Abercaseg.

  • Staff creating art
  • A child wearing a red jumper doing gymnastics

Diolch!

Hoffem fel Ysgol ddiolch o waelod calon i Chloe Moore, sydd yn riant acw, am y rhodd ariannol ar gyfer disgyblion y Grwp Enfys. Llwyddwyd i godi £100, ac fe aeth cyfraniad o’r arian i dalu am fws trydan i Ddreigiau’r Dyffryn. Roedd y plant yn eu gogoniant!

Fel rhan o’n Cynllun Datblygu eleni, rydym yn awyddus i ddatblygu’r awyr agored. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i C.L. Jones am eu rhoddion caredig. Mi fydd yr ardd a’r ardal tu allan yn bictiwr erbyn diwedd y tymor!

  • Children with a bag full of food to give to the food bank