YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Newyddion Mai 2024 (Welsh Only)

Newyddion Mai 2024 (Welsh Only)


Wythnos Iechyd a Lles yn y ddwy ysgol.

Nôd wythnos Iechyd a Lles yma’n Ysgol Abercaseg ac Ysgol Penybryn oedd cefnogi Iechyd meddwl a Lles emosiynol y plant. Trefnir yr wythnos yn rheolaidd, ond gan mai thema’r wythnos eleni oedd ‘Symudiad’ yn Abercaseg, cawsom wythnos yn llawn dop o weithgareddau corfforol er mwyn hyrwyddo’r neges fod ymarfer corff yn gwella ein iechyd meddwl.

  • A child looking at a whiteboard with pictures and writing

Ymweld â Dreigiau’r Dyffryn

Cafodd y plant fodd i fyw yn gwneud pob math o gampau yn Nreigiau’r Dyffryn! Roedd hi’n braf gweld y plant yn mentro ar yr offer, a hynny am y tro cyntaf i amryw ohonynt. Roedd y plant wrth eu boddau hefyd yn cael teithio yn y bws trydan, roeddent wedi rhyfeddu pa mor dawel oedd y bws!

Da iawn chi blantos, a diolch o galon i Sophie Pipe o Dreigiau’r Dyffryn am drefnu gweithgareddau hynod o gyffrous a diddorol i’r plant.

  • A child upside down on one of the equipment
  • Children enjoying themselves on the equipment

Sesiwn Ioga gyda Leisa Mererid

Pa ffordd well o ymdawelu ar ôl prysurdeb Dreigiau’r Dyffryn na sesiwn ioga gyda Leisa Mererid. Roedd y plant wrth eu boddau yn cael symud fel gwahanol anifeiliaid ac yn cael cyfle i dawelu’r meddwl yn ogystal. Diolch Leisa am sesiwn hynod o ddifyr, y plant wedi mwynhau’n arw.

  • Children doing Yoga on the floor
  • Children doing Yoga standing up

Sesiwn Rygbi gydag Osian Jones - Swyddog Rygbi'r Dalgylch

Gan fod nifer o blant a phobl ifanc Bethesda wrth eu boddau yn chwarae rygbi, roedd rhaid gofyn i Osian am ddod draw! Mae’r mwynhad i’w weld yn amlwg ar wynebau’r plant. Braf oedd gweld y plant yn cael mwynhau’r cae yng nghanol y tywydd heulog. Diolch Osian am gynnal sesiynau egnïol a chyffrous.

  • Children playing rugby

Creu smwddis iachus

Ni does modd cadw’r corff a’r meddwl yn iach heb fwyta’n iach. Felly, daeth pob dosbarth â ffrwythau o wahanol liwiau i’r Ysgol ac fe grëwyd smwddis iachus a hynod o flasus! Diolch i’r rhieni am eu cyfraniad hael.

Sesiwn pêl-droed gyda Nathan Craig

Er mwyn bodloni’r pêl-droedwyr yn ein plith, cawsom sesiwn gyda’r bechgyn sydd yn gweithio i Nathan Craig. Llwyddodd y rhai lwcus gael medal am ddangos yr ymdrech fwyaf yn ystod y sesiynau. Llongyfarchiadau blantos a diolch i’r bechgyn am gynnal sesiynau hwyliog, roedd pawb wedi cyffroi’n lân.

Taith Gerdded

I gloi’r wythnos, cawsom daith cerdded i’r Ysgol gyfan. Dyma ffordd arbennig i gloi wythnos hynod o lwyddiannus, gyda’r plant a’r staff yn mwynhau’r heulwen ac yn mwynhau golygfeydd godidog Bethesda yn llygaid yr haul.

Diwrnod Rhifedd

Er mwyn hyrwyddo rhif trwy’r Ysgol cafwyd gweithgareddau hwyliog a diddorol yn dathlu ein bod yn mwynhau delio gyda rhifau yn Abercaseg. Gwisgodd y plant y eu dillad eu hunain gan sicrhau fod rhifau ar eu dillad, a chafwyd rhifau wedi eu peintio ar eu hwynebau ynghyd â nifer o gemau yn ymwneud â rhif trwy’r prynhawn.

Gwawr y Frenhines

Da iawn chi blant am berfformio yn seremoni coroni Carnifal Bethesda yn Ysgol Dyffryn Ogwen! Braf oedd gweld y plant yn mwynhau ac yn diddanu'r gynulleidfa gyda pherfformiad egnïol i gefnogi ein brenhines ni o Ysgol Penybryn a gweddill y “teulu brenhinol!”

Diolch blant! Braf oedd gweld Gwawr o Ddosbarth Tryfan, Ysgol Penybryn, yn gwisgo ei choron ar ddiwrnod y carnifal!

  • Children taking part in the Bethesda Carnival

Helfa Drysor

Profodd disgyblion Penybryn lu o weithgareddau amrywiol fel rhan o’r wythnos Iechyd a Lles yn ogystal gan helfa drysor o amgylch y pentref. Aeth disgblion y  Cyngor Ysgol ati i baratoi’r helfa drwy grwydro ac ymchwilio i rhai o nodweddion daearddol ac hanesddol ein pentref cyn llunio cwis difyr iawn i bob disgybl arall. Mae adnabod ein cynefin a’n gwreiddiau yn allweddol bwysig i ni yma yn Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg!

  • Children looking for treasure
  • Children working together to look for treasure

Creu Byrbrydau Iach

Profiad arall oedd mynd ati i greu cibabs ffrwythau a pitsas iachus – a braf oedd gweld bob disgybl wrthi’n ddygn iawn yn coginio! Diolch yn fawr i Tesco Bach a Londis Bethesda am eu cyfraniad hael unwaith eto! Fel ysgolion, rydym wastad yn falch iawn o gyd-weithio gyda busnesau lleol yr ardal.

  • Children eating fruit kebabs
  • Children eating fruit kebabs and pizza

Taith i fyny’r Wyddfa!

I goroni’r Wythnos Iechyd a Lles ym Mhen-y-bryn, mentrodd disgyblion Blwyddyn 6, staff ac ambell i riant i fyny’r Wyddfa fawr. Cychwynodd y daith ym Mhen y Pas gan ddilyn Llwybyr Pen-y-Gwryd (PYG) gan ddiweddu’n ddiogel ger y llyn yn Llanberis ar derfyn diwrnod blinedig, heriol ond llawn mwynhad, boddhad a balchder o lwyddo i ddringo’r Wyddfa.

  • Children holding a Welsh flag and school flag on top of Yr Wyddfa

A Oes heddwch?

Diolch i Mr Richard Smith a disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen am gyflwyno’r cadeiriau cywrain yma ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Ysgol Penybryn, a gynhelir ar yr 20fed o Fehefin 2024! Diolch hefyd i Welsh Slate am y llechi hyfryd sydd yn sylfaen gref i bob un ohonynt. Tybed pwy fydd yn deilwng o’r campweithiau eleni?

  • Children holding trophies after competing at the Eisteddfod

Gofalu am ein hardal leol

Fel rhan o’n prosiect gofalu am y blaned, bu plant Penybryn wrthi’n ddiwyd yn casglu ysbwriel a gwastraff plastig o amgylch Betheda er mwyn ei ail- gylchu. Mae disgyblion Blwyddyn 5 a 6 wrthi’n creu llyfryn gwybodaeth i fusnesau a siopau lleol i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gofalu am yr amgylchedd. Bydd y llyfryn yn llawn gwaith animeiddio, celf, adroddiadau, cerddi ac ati i dynnu sylw at y mater pwysig hwn.

Chwaraeon – Pencampwyr Ysgolion Gwynedd 2024!

Am y tro cyntaf mewn hanes, llwyddodd tim pel-droed genethod Pen-y-bryn i ddod yn fudduguol mewn cystadleuaeth 5-bob ochr Ysgolion Gwynedd am yr ail flwyddyn yn olynol! Yn dilyn cyfres o gemau cystadleuol ym Mhlas Silyn ym Mhenygroes, aeth genod ni ymlaen i drechu tim cryf o Bontnewydd o ddw gol i ddim yn y ffeinal, gan enill  fraint o gynrchioli Ysgolion Cynradd Gwynedd yn y Drenewydd wythnos yn ddiweddarach!

Roedd yr awyrgylch ar Barc Latham,  Drenewydd yn llawn bwrlwm gyda phlant, athrawon a rhieni o bob cwr o Gymru yn ymgynnull ar gyfer yr ŵyl genedlaethol. Er i’r genod chwarae’n arbennig gan guro tair gem yn erbyn ysgolion o’r Fflint, Dinbych a Chonwy, yn ogystal â llwyddo i ddal ysgolion o Ben-y-bont a Llanelli yn gyfartal, colli o un gôl, yn yr eiliad olaf yn unig oedd eu hanes yn y diwedd yn erbyn ysgol Treganna o Gaerdydd.  Er hyn, cawsom ddiwrnod arbennig ac mae Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg yn falch iawn o’r genethod unwaith eto!