Home > News > Newyddion Medi 2023 (Welsh Only)
Newyddion Medi 2023 (Welsh Only)
Croeso
Croeso mawr i 34 o ddisgyblion newydd sydd wedi trosglwyddo o Ysgol Abercaseg i Pen-y-bryn. Mae pob un wedi setlo’n wych erbyn hyn.
Chwaraeon
Mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cael blas ar wahanol chwaraeon y tymor yma. Mae disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn derbyn hyfforddiant criced gyda Steve a blwyddyn 5 a 6 yn datblygu eu sgiliau rygbi gyda Osian.
Bore Agored
Mae pob dosbarth wedi cynnal bore agored ar gyfer y rhieni i gyflwyno sut mae’r ysgol yn mynd ati i ddatblygu sgiliau darllen y disgyblion. Cafodd y rhieni flas ar wneud gwahanol weithgareddau gyda’u plant yn ogystal a derbyn arweiniad ar sut i’w cefnogi adref. Roedd pawb yn cytuno bod darllen yn sgil hynod bwysig fydd ei angen gydol eu bywyd.
Taith Ysgol Penybryn i Gaerydd
Bore Mercher glawog oedd hi, pan heidiodd llond bws o flwyddyn chwech lawr am y brif ddinas. Er gwaethaf y tywydd truenus, doedd dim byd am ddifetha hwyliau da ein disgyblion a oedd ar fîn profi tridiau bythgofiadwy.
Caswom groeso gwerth chweil yng Nghanolfan yr Urdd gan Gwion a’r criw, a phawb ar dân i fentro allan a gweld yr holl atyniadau a bwrlwm y ddinas. Bum yn Amgueddfa Sain Ffagan, Y Senedd, taith o amgylch y bae ar gwch cyflym, Stadiwm Principality a llawer mwy. Y pinacl wrth gwrs oedd bowlio deg a ffilm mewn sinema enfawr i ddiweddu’r tridiau. Do, fe ddysgodd y plant lawer am Gymru a Chymry’r gorffennol, a’r presennol, ond roedd cael gweld a phrofi awyrgylch y llefydd uchod yn well na thaflen waith llawn gwybodaeth unrhyw ddiwrnod. Diolch i’r holl staff am eu gofal dros y tridiau, ond mae’r diolch yn bennaf i’r plant am fod yn gwrtais, brwdfrydig ac yn werthfawrogol. Rydych yn ser!
Antur yng Nglanllyn
Treuliodd blwyddyn 5 dridiau hwyliog ac anturus iawn yng Nghlanllyn. Cawsant y cyfle i ddefnyddio llawer o’r pwerau dysgu wrth drio pethau newydd megis adeiladu rafft, mentro ar y wal ddringo a chanwio ar Lyn Tegid cyn neidio i mewn i’r llyn. Gyda’r nos roedd cyfle i ymlacio wrth wylio ffilm a gwisgo’n smart a dawnsio’n ddi-stop yn y disgo. Dangosodd pawb eu bod yn barod i gefnogi a chyd-weithio gyda’i gilydd er mwyn llwyddo yn y gweithgareddau a gwneud y mwyaf o’r profiad.