Home > News > Newyddion Mehefin 2023 (Welsh Only)
Newyddion Mehefin 2023 (Welsh Only)
Gwasanaeth y Pentecost
Braf oedd cael croesawu'r Parchedig Sara Roberts i'r ysgol unwaith eto i gynnal gwasanaeth ysgol gyfan! Trafodwyd y Pentecost sy'n cael ei ystyried fel pen-blwydd yr Eglwys, a sut mae dathlu pen-blwydd? Wel wrth rannu cacen wrth gwrs! Diolch unwaith eto, pawb wedi gwrando'n astud ac wedi mwynhau'n arw!
Seremoni’r Coroni
Braf oedd gweld rhai o genethod Ysgol Pen y bryn yn perfformio yn Serononi Coroni Carnifal Bethesda eto eleni ac Efa Rhodd, a oedd wedi’i dewis i fod yn frenhines y carnifal eleni!.
Merched Pesda yn Y Drenewydd
Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed genethod Ysgol Penybryn am gynrychioli ysgolion Cyngor Gwynedd yng Ngŵyl Genedlaethol 5 bob ochr Cymru yn Y Drenewydd.
Braint oedd gweld y tîm yn magu hyder a gwella ym mhob gêm. Pawb wedi mwynhau’n arw a rhoi eu gorau glas. Da iawn chi genod Pesda!
Bro360
Diolch o galon i Catrin o Bro360 am ddod acw i weithio gyda'r Cyngor Ysgol a'u dysgu sut i rannu newyddion a digwyddiadau'r ysgol ar dudalen Ogwen360! Cofiwch wylio allan am hynt a helynt ein disgyblion yma!
Cystadleuaeth Stori Fer
Gwych oedd gweld fod cymaint wedi cymryd rhan yng nghystadleuaeth stori fêr BBC radio Cymru eleni, mae pawb yn falch iawn ohonoch, ymdrech wych!
Edrychwn ymlaen at fwy o gystadlu yn y dyfodol agos!
Prynhawniau Agored
Agorwyd drysau’r dosbarthiadau y tymor yma i groesawu rhieni Ysgol Abercaseg i mewn am sgwrs ac i weld gwaith y disgyblion. Roedd yn braf cael cyfle i ddal i fyny gyda pawb, a gweld balchder yng ngwynebau’r plant wrth ddangos eu gwaith caled i’w rhieni.
Diolch Mrs Roberts
Fe hoffwn ddymuno’n dda a diolch o waelod calon i Mrs Angharad Roberts a fu’n treulio cyfnod gwerthfawr dros ben gyda dosbarth Ffrancon eleni. Bu’r plant yn mwynhau llu o brofiadau arbennig drwy gydol y flwyddyn. Roedd y plant yn edrych ymlaen yn fawr iawn i’w gweld ar ddydd Iau a dydd Gwener i gael gwersi llawn creadigrwydd, prysurdeb a hwyl. Diolch Mrs Roberts!
Creaduriaid Y Môr
Yn ystod y tymor hyd yma mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu am greaduriaid y môr. Cawsom ymwelwyr unigryw dros ben yn y dosbarth i gyd-fynd gyda’n thema. Cawsom weld a chyffwrdd gwahanol bysgod, crancod a cimwch byw. Roedd y plant wedi gwirioni wrth gael arsylwi a theimlo’r creaduriaid rhyfeddol- gyda rhai disgyblion yn ddigon dewr i afael arnynt. Da iawn chi blantos!
Blue Planet
Cafodd disgyblion Blwyddyn 2 daith gwerth chweil i ‘Blue Planet’ yn ddiweddar. Cawson nhw gyfle i wylio’r creaduriaid yn cael eu bwydo yn yr ‘aquarium’, yn ogystal â cherdded trwy’r twneli rhyfeddol gyda phob math o bysgod a siarcod yn nofio drostynt. Cawson nhw hefyd arsylwi’r bywyd morol yn y pyllau amrywiol yn cynnwys ‘aligators’, manta, cwrel a physgod clown fel ‘Nemo’. Roedd gwen fendigedig ar wynebau pawb!
Sw Mor
Bu disgyblion Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 1 ar daith dros y bont i Sw Mor Ynys Môn ar ddechrau’r thema i arsylwi’r bywyd morol gwych yn ein moroedd. Cawson nhw weld pysgod jeli, morfeirch, a sêr mor hyfryd. Roedd y plant wedi rhyfeddu gyda’r holl bysgod ac wedi mwynhau sgwrs ddifyr gan y Sw Môr ar siarcod. Cafodd pawb ddiwrnod gwerth chweil!
Ymweliad i Ysgol Pen-y-bryn
Bu Blwyddyn 2 ar ymweliad i Ysgol Pen y Bryn yn ddiweddar fel rhan o’u cyfnod paratoi a phontio’n barod i drosglwyddo i’r ysgol. Roedd pawb wedi mwynhau a llawn straeon am eu profiadau ar ôl dychwelyd i’r ysgol. Cawson sawl stori am yr hwyl a gawson yn chwarae pêl droed ar y buarth!
Carnifal
Llongyfarchiadau i holl ddisgyblion Ysgol Pen-y-bryn ac Abercaseg a fu’n cymryd rhan yn y Carnifal eleni. Da iawn chi gyd am gymryd rhan yn y majorettes, perfformiad Dreigiau’r Dyffryn, cymryd rhan yn y fflotiau, ymdrechu i wisgo i fyny mewn gwisg ffansi neu droi fyny i fwynhau a chefnogi. Braf iawn oedd gweld disgyblion Abercaseg yn cymryd rhan werthfawr yn y gymuned.
Rhoddion Caredig
Fe hoffwn ddiolch yn fawr i Mrs Kelly Shaw, sydd yn rhiant i un o ddisgyblion Ysgol Abercaseg, am ei rhoddion caredig iawn tuag at ein Clwb Magwraeth. Mae Mrs Shaw yn gweithio yn archfarchnad ‘Morrisons’ ym Mangor, ac wedi trefnu bod rhodd o fyrbrydau amrywiol wedi cael eu rhoddi i’r clwb ac mae pawb yn falch iawn ohonynt. Diolch!