YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Newyddion Mis Medi 2024 (Welsh only)

Newyddion Mis Medi 2024 (Welsh only)


(Welsh only)

Croeso

Croeso mawr i blant bach newydd y Meithrin, Ysgol Abercaseg a’r criw sydd wedi trosglwyddo i Flwyddyn 3 Ysgol Pen-y-bryn! Mae pob un wedi setlo’n wych erbyn hyn.

Gŵyl Caseg!

Roedd Abercaseg yn llawn cyffro ar noson braf o ‘Haf Bach Mihangel’ yng nghanol mis Medi, wrth i’r gymuned leol ddod at ei gilydd ar gyfer Gŵyl Caseg, ffair ysgol lwyddiannus. Roedd y digwyddiad yn llawn hwyl ac adloniant, gan gynnwys stondinau amrywiol, castell neidio, DJ, bwyd blasus a chacennau, ac amryw o gemau - gan gynnwys gêm boblogaidd o daflu sbyngiau gwlyb at y pennaeth!

Roedd y ffair yn ddathliad gwych o ysbryd cymunedol Pesda, gyda theuluoedd a ffrindiau yn mwynhau diwrnod llawn chwerthin a hwyl. Bydd yr holl elw o’r digwyddiad yn mynd tuag at wella adnoddau chwarae ar gyfer y ddwy ysgol.

“Roeddem yn falch iawn o weld cynifer yn bresennol ac mor frwdfrydig,” meddai un rhiant fu’n helpu efo’r trefniadau. “Roedd yn noson i’w gofio, ac rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth ein cymuned.”

Diolch enfawr i bawb a helpodd i drefnu, gwirfoddoli, ac a fynychodd y digwyddiad – mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth i’n hysgolion.

Ymweliad Blwyddyn 6 a Chaerdydd

Wel am dridiau anhygoel a gafodd blwyddyn 6 yng Nghaerdydd, a pha ffordd well o gychwyn blwyddyn newydd sbon na ymweld ā phrifddinas Cymru. Tridiau yn llawn ymweliadau diddorol a llawer o hwyl wrth gwrs. Ein man cychwyn oedd ymweld â Phwll Mawr ym Mlaenafon, cyfle i ddysgu am fywyd ac amodau gwaith caled y glowyr yn y gorffennol. Yna bum yn y Senedd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Stadiwm Principality, cwch cyflym ar hyd y bae, bowlio deg a’r sinema. Cafodd y plant brofiadau gwerthfawr, bythgofiadwy. Diolch o galon i’r holl staff am roi gofal mor arbennig i’r plant, ond mae’r diolch mwyaf i’r plant am ymddwyn mor arbennig â bonheddig  gydol y daith gan ddod ac enw da i Ysgol Penybryn unwaith eto. Edrychwn ymlaen at daith lwyddiannus arall y flwyddyn nesaf.

Bore Coffi Macmillan

Roedd Ysgol Penybryn yn llawn ysbryd cymunedol ddydd Iau, 26ain o Fedi wrth i ddisgyblion, rhieni, a staff ddod at ei gilydd ar gyfer Bore Coffi Macmillan llwyddiannus. Cynhaliwyd y digwyddiad yn neuadd yr ysgol ac roedd yn gyfle gwych i’r gymuned leol ddod ynghyd, mwynhau cacennau cartref, te a choffi, a chodi arian at achos da.

Diolch i haelioni a chefnogaeth pawb a fynychodd, codwyd swm arbennig o £324.35 ar gyfer Cymorth Canser Macmillan. Bydd yr arian yn mynd tuag at ddarparu gofal a gwasanaethau hanfodol i’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan ganser.

Dywedodd y Pennaeth Gethin Thomas, “Rydym wedi ein syfrdanu gan y gefnogaeth a haelioni anhygoel a ddangoswyd gan ein cymuned. Roedd yn hyfryd gweld pawb yn dod at ei gilydd i gefnogi achos mor deilwng. Diolch o galon i bawb a gyfrannodd, pobi cacennau, ac a helpu i drefnu'r digwyddiad.”

Hoffai Ysgol Penybryn estyn eu diolch i bawb a fu’n rhan o wneud y bore coffi yn llwyddiant mawr. Mae pob cyfraniad, boed yn fawr neu’n fach, wedi gwneud gwahaniaeth.

Diwrnod Dathlu Roald Dahl Ysgol Penbryn!

Cawsom ddiwrnod gwerth chweil yn gwneud bob math o weithgareddau megis chwarae rôl , tynnu lluniau, gwrando ar straeon a llawer mwy! Diolch i bawb am wneud yr ymdrech i wisgo fyny fel cymeriadau o’r llyfrau, yn blant ac yn staff wrth gwrs! Rydych i gyd yn arbennig!

Chwaraeon

Mae’r disgyblion wrth eu bodd yn cael blas ar wahanol chwaraeon y tymor yma. Mae disgyblion Dosbarth Glyder yn datblygu eu sgiliau rygbi gydag Osian, tra mae Dosbarth Tryfan ac Elidir yn magu hyder a  gwella eu sgiliau nofio ym Mangor yn wythnosol.