YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Home > News > Ymweliad Blwyddyn 6 a Chaerdydd (Welsh only)

Ymweliad Blwyddyn 6 a Chaerdydd (Welsh only)


  • Year 6 pupils visiting the Senedd
  • Year six in the Pwll Mawr

Wel am dridiau anhygoel a gafodd blwyddyn 6 yng Nghaerdydd, a pha ffordd well o gychwyn blwyddyn newydd sbon na ymweld ā phrifddinas Cymru.

Tridiau yn llawn ymweliadau diddorol a llawer o hwyl wrth gwrs. Ein man cychwyn oedd ymweld â Phwll Mawr ym Mlaenafon, cyfle i ddysgu am fywyd ac amodau gwaith caled y glowyr yn y gorffennol. Yna bum yn y Senedd, Amgueddfa Sain Ffagan, Stadiwm Principality, cwch cyflym ar hyd y bae, bowlio deg a’r sinema. Cafodd y plant brofiadau gwerthfawr, bythgofiadwy. Diolch o galon i’r holl staff am roi gofal mor arbennig i’r plant, ond mae’r diolch mwyaf i’r plant am ymddwyn mor arbennig â bonheddig  gydol y daith gan ddod ac enw da i Ysgol Penybryn unwaith eto.

Edrychwn ymlaen at daith lwyddiannus arall y flwyddyn nesaf.