Hafan > Dogfennaeth Bwysig > Ein Blaenoriaethau
Ein Blaenoriaethau
BLAENORIAETH 1:
Datblygu annibyniaeth y dysgwyr yn y Ffederasiwn o fewn sgiliau llythrennedd drwy gryfhau eu gallu i fyfyrio’n feirniadol ar eu dysgu, gan sicrhau lefel briodol o her, ac ymestyn y medrau hyn yn fwriadus ar draws Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill er mwyn cefnogi, meistroli a chymhwyso’r sgiliau’n gyson
BLAENORIAETH 2:
Sicrhau bod y Cynlluniau yn cynnwys cynnydd mewn sgiliau a gwybodaeth, dilyniant a datblygiad yn y ddarpariaeth yn ogystal a chynnig lefel briodol o her sydd yn cefnogi’r disgyblion i ddatblygu eu medrau hyd eithaf eu gallu ar draws y Ffederasiwn.
BLAENORIAETH 3:
Parhau i annog a hybu Presenoldeb er mwyn anelu at darged yr ysgol , megis, 95%.
BLAENORIAETH 4:
Sicrhau bod y dysgwyr ag ADY yn gwneud cynnydd da a bod trefniadau effeithiol yn parhau ar waith i nodi, cynorthwyo a monitro disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol ar draws yr ysgolion.