YSGOL PEN-Y-BRYN
& YSGOL ABERCASEG

Hafan > Dogfennaeth Bwysig > Adroddiad Estyn

Adroddiad Estyn


Adroddiad Disglair gan Estyn i Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg, Bethesda

Mae Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg wedi derbyn canmoliaeth uchel yn eu harolygiad diweddar gan Estyn, gyda’r arolygwyr yn canmol ymroddiad y ffederasiwn i ddarparu cwricwlwm eang ac ysgogol sy’n dwysáu dealltwriaeth disgyblion o’u cymuned, yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg ac yn eu hannog i edrych ymlaen at y dyfodol yn hyderus.

Prif bwyntiau’r adroddiad:

  • Cwricwlwm sy’n dathlu treftadaeth unigryw’r ardal ac yn annog disgyblion i anelu at eu dyheadau yn y dyfodol.
  • Cynnydd cryf mewn llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, gyda disgyblion yn gadael yr ysgol yn gyfathrebwyr hyderus yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Prosiectau mentergarwch sy’n datblygu llythrennedd ariannol, gwaith tîm a chreadigrwydd, gan gynnig profiadau bywyd go iawn gyda busnesau lleol.
  • Ethos cynnes a gofalgar, gyda staff yn meithrin perthnasoedd cadarnhaol sy’n cefnogi lles, ymddygiad ac agweddau cadarnhaol at ddysgu.
  • Cydweithio cryf ar draws y ffederasiwn, gan sicrhau bod disgyblion yn elwa ar gyfleoedd addysgu a dysgu o safon uchel.

Roedd yr arolygwyr yn canmol brwdfrydedd y staff, sy’n rhannu gweledigaeth y pennaeth i feithrin dinasyddion egwyddorol a mentrus sy’n falch o’u cymuned a’u hiaith. Nodwyd hefyd fod disgyblion y ddwy ysgol yn dangos ymddygiad rhagorol, agweddau cadarnhaol at ddysgu ac yn cymryd rhan mewn rhedeg yr ysgol drwy grwpiau arbennig a llais y disgyblion.

Dywedodd y Pennaeth, Mr Gethin Elis Thomas, “Rydym wrth ein bodd fod Estyn wedi cydnabod cryfderau’r ffederasiwn. Mae llwyddiant Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg yn deillio o gydweithio rhwng staff, disgyblion, teuluoedd a’r gymuned. Gyda’n gilydd, rydym yn magu plant sy’n falch o’u cymuned ac yn hyderus ynglŷn â’u dyfodol.”

Ychwanegodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Mrs Robyn Meredydd, “Mae’r adroddiad hwn yn adlewyrchu’n wych y gwaith caled a’r ymroddiad ar draws y ffederasiwn. Mae’n dangos fod ein disgyblion yn derbyn addysg sydd wedi’i wreiddio yng Nghymuned Bethesda, ond sy’n rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt ffynnu yn y byd ehangach.”

Dywedodd disgybl Blwyddyn 6, “Rydyn ni wrth ein boddau gyda’r prosiectau a’r holl brofiadau tu allan i’r dosbarth rydym yn ei dderbyn achos maen nhw’n ein helpu i ddysgu sgiliau newydd ac yn gwneud i ni deimlo’n barod ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n falch o Ysgol Abercaseg ac Ysgol Penybryn ac o siarad Cymraeg bob dydd.”

Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod Ysgol Penybryn ac Ysgol Abercaseg yn ysgolion sy’n rhan allweddol o gymuned Bethesda ond sydd hefyd yn edrych allan i’r, gan sicrhau bod disgyblion yn falch o’u treftadaeth ac yn barod i wynebu’r dyfodol.