Hafan > Dogfennaeth Bwysig > Gweledigaeth yr Ysgol
Gweledigaeth yr Ysgol
Rydym ni eisiau i Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg fod yn ysgolion sy’n parchu eu hanes a’u ddiwylliant, ond sydd yn symud ymlaen yn bwyllog a phenderfynol tuag at ragoriaeth, i baratoi’r disgyblion ar gyfer eu dyfodol fel dinasyddion.
Mae’r ysgol, y cartref a’r gymuned yma ym Methesda yn bartneriaeth gwerthfawr, sy’n gweithio at gyrraedd yr un nod. Rydym am weld pob disgybl yn cael y cyfle i ddatblygu hyd eithaf ei allu gan feithrin agweddau a rhannu profiadau fydd yn gosod sylfaen gadarn i’w fywyd fel oedolyn. Gwneir hyn drwy ennyn balchder yn ei Gymreictod a theyrngarwydd tuag at gymuned ac etifeddiaeth.
Mae pob disgybl cyfwerth â’i gilydd ond rydym yn derbyn hefyd bod plant yn wahanol i’w gilydd a chanddynt yr hawl i lwyddo mewn gwahanol ffyrdd. Ceisiwn ddysgu’r plant i barchu eu hunain ac eraill drwy ddangos gwydnwch, empathi a dyfalbarhad.
Rydym eisiau i blant adael Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg yn ddisgyblion hyderus, sydd â sgiliau trafod da a hygrededd personol, a chariad tuag at addysg ac yn abl i wynebu sialens. Rydym eisiau’r disgyblion i allu dysgu’n annibynnol; fod yn ymwybodol o’r safonau a ddisgwylir ganddynt; fod yn gwybod sut i wella eu gwaith; fod â’r gallu i ddefnyddio’r adnoddau maent eu hangen ar gyfer datblygu; fod yn gwybod beth i’w wneud os ydynt yn wynebu anhawster, ac yn medru defnyddio sgiliau ymchwilio i ddod o hyd i atebion. Rydym ni eisiau i’r plant allu datrys problemau’n greadigol yn ogystal â defnyddio sgiliau cydweithio.
Er mwyn i hyn fod yn bosibl, rhaid i’r cwricwlwm eu hysgogi, fod yn aml-synhwyrol a rhaid i’r addysgu fod wedi ei gynllunio fel bod y plant yn weithredol yn y broses o ddysgu er mwyn datblygu’n unigolion hyderus ac annibynnol. Rydym eisiau’r cwricwlwm fod yn un eang, diddorol, ymarferol; perthnasol a chyfoes ar gyfer byd sy’n newid yn gyflym, gan gynnig her a mwynhad er mwyn rhoi cyfle i bob unigolyn ddatblygu i’w llawn botensial.
Dylai disgyblion yr ysgol gymryd rhan yn y broses o redeg yr ysgol o ddydd i ddydd, ac yn y broses o osod cyfeiriad i’r ysgol. Er mwyn i hynny ddigwydd bydd rhaid i’r plant fod yn ymwybodol fod eu syniadau a’u gweledigaeth yn cael eu parchu, ac y gwnawn ni wrando arnynt.
Mae’r staff yn cael eu hannog i ddangos blaengaredd, ac i gymryd risgiau yn ei haddysgu, heb hyn, bydd eu datblygiad fel arweinwyr, addysgwyr a phobl greadigol yn cael ei atal a’i gyfyngu. Er mwyn i bawb elwa o sgiliau a gwybodaeth aelod unigol o’r staff, rhaid i ni gyd fod yn gallu cyfathrebu’n rhydd, mewn awyrgylch lle mae pawb yn cael parch, her a chefnogaeth.
Mae’r ysgol a’r cartref yn bartneriaeth. Dylai rhieni fod yn falch o’r ysgol, a pharchwn ni hwy fel addysgwyr cyntaf ein plant. Rydym o’r farn y dylai’r ysgol roi’r cyfle iddynt ddeall a bod yn rhan o’r broses addysgu er mwyn iddynt fedru helpu eu plant tu allan i’r ysgol. Dylent fod yn teimlo’n abl i ofyn cwestiynau a gwneud awgrymiadau ynglŷn â bywyd yr ysgol. Rydym ni fel staff, llywodraethwyr, disgyblion a chyfeillion Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg yn gallu gweld ysgol sydd ag ymdeimlad o’i hunaniaeth ei hun - ysgol sydd ag addysg o’r radd uchaf mewn awyrgylch hapus a phwrpasol. Dylai pob plentyn allu edrych yn ôl ar ei ddyddiau ysgol fel sylfaen gref a llwyfan gadarn i weddill ei fywyd.
Mae ein gweledigaeth ni yn anelu at rhoi anghenion y plant uwchlaw popeth arall, ac rydym yn hollol argyhoeddedig fod y disgyblion yn haeddu’r cyfleoedd addysgol gorau y gallwn eu darparu iddynt.
Gwireddu Gweledigaeth Ysgolion Penybryn ac Abercaseg, Bethesda 2022
Taith Creu Gweledigaeth Ysgolion Penybryn ac Abercaseg, Bethesda